Symud tŷ

Os ydych yn bwriadu gwerthu eich eiddo, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni gan na fyddwch bellach yn berchen ar y dechnoleg. Gallwch wneud hyn dros y ffôn, drwy e-bost neu lythyr.

Bydd angen i chi gysylltu â ni 28 diwrnod cyn i'r gwerthiant gael ei gwblhau - er, y cynharaf y gallwch roi gwybod i ni, gorau oll.

Drwy roi'r wybodaeth hon i ni cyn gynted â phosibl, rydych yn ein galluogi i dalu'r taliadau cywir ac osgoi unrhyw angen i chi ad-dalu unrhyw arian.

Rydych yn cytuno i hyn pan fyddwch yn gwneud cais fel rhan o'ch rhwymedigaethau parhaus i roi gwybod i ni os caiff eich eiddo ei drosglwyddo i berchenog newydd.

Bydd peidio â rhoi gwybod i ni yn achosi oedi os yw'r perchennog newydd yn bwriadu ymuno â'r cynllun.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Mae angen i chi roi un o'r dogfennau canlynol i ni unwaith bydd yr eiddo wedi'i werthu:

  • Ffurflen TR1 wedi'i chwblhau
  • Copi o'r weithred eiddo sy'n dangos dyddiad y caiff y berchnogaeth ei throsglwyddo
  • Llythyr gan gyfreithiwr sy'n cadarnhau'r gwerthiant. Dylai'r llythyr gynnwys cyfeiriad yr eiddo, eich enw ac enw'r perchennog newydd a dyddiad cyfreithiol y trosglwyddiad.

Pryd bydd eich taliadau yn dod i ben?

Caiff unrhyw daliadau sy'n weddill eu talu hyd at y diwrnod cyn y caiff trosglwyddiad cyfreithiol yr eiddo ei gwblhau. Er enghraifft, os mai dyddiad y trosglwyddiad yw 1 Ionawr, cewch eich talu hyd at ac yn cynnwys 31 Rhagfyr.

Yna byddwch yn derbyn unrhyw arian sy'n ddyledus i chi unwaith y byddwch wedi rhoi un o'r dogfennau a nodir uchod i ni. 

Os ydych wedi prynnu tŷ gyda system gwresogi adnewyddadwy ynddi eisioes

Mi fydd yn rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted a phosib oherwydd ni fydd taliadau yn dechrau nes ein bod wedi cadarnhau eich cais. Mi fydd angen i chi anfon un o’r dogfennau canlynol i gadarnhau taw chi yw’r perchenog newydd:

  • Ffurflen TR1 wedi'i chwblhau
  • Copi o'r weithred eiddo sy'n dangos dyddiad y caiff y berchnogaeth ei throsglwyddo
  • Llythyr gan gyfreithiwr sy'n cadarnhau'r gwerthiant. Dylai'r llythyr gynnwys cyfeiriad yr eiddo, eich enw ac enw'r perchennog newydd a dyddiad cyfreithiol y trosglwyddiad.

Fel y perchenog newydd, mi fydd angen i chi gael y tysysgrif  Microgeneration Certification Scheme (MCS)open key term pop-up mwyaf diweddara yn ogystal â’r tystygrif perffomiad egni  Energy Performance Certificate (EPC)open key term pop-up mwyaf diweddara. Byddwn ni angen y rhifau o’r tystysgrifau yma. Gallwch ofyn wrth y perchenogwyr oedd yn y tŷ cyn chi am y dogfennau yma.

You can download the relevant EPC for your property from the Landmark Registry website in England and Wales or the Energy Savings Trust website in Scotland. Alternatively you can get information or assistance by calling the Landmark Registry on 03300 366 024 or the Energy Saving Trust on 0808 808 2282.

Fe allwch lawr-lwytho eich EPC cywir o wefan y Cofrestr Tir yng Ngymru neu Lloegr ac o wefan y Gymdeithas Arbed Egni yn yr Alban. Neu fe allwch gysylltu â’r cyrff hyn drwy alw 03300 366 024 sef y Cofrestr Tir neu 0808 808 2282 ar gyfer y Cymdeithas Arbed Egni yn yr Alban.

Pryd fydd y taliadau yn dechrau?

Mi fydd y taliadau yn dechrau o’r pwynt yr ydych yn cael eich derbyn i fod yn aelod o’r cynllun. Mae taliadau yn cael eu talu yn ôl yr amserlen taliadau sydd eisoes yn bodoli.