Mae newid i gyflenwr rhatach yn ffordd wych i chi arbed arian ar eich biliau ynni. Un o'r ffyrdd y gallwch newid yw drwy werthwyr yn cynnig cynigion wyneb yn wyneb, fel ar garreg y drws neu dros y ffôn.
Fel y rheoleiddiwr marchnadoedd ynni annibynnol, diduedd, nid yw Ofgem yn gwerthu o ddrws i ddrws na dros y ffôn, ac nid ydym yn gofyn i gwmnïau wneud hynny ar ein rhan. Os byddwch yn cael galwad, cofiwch y pedwar awgrym defnyddiol hwn:
1 Gofynnwch am gerdyn adnabod
Dylech bob amser ofyn i werthwr ar garreg y drws ddangos ei gerdyn adnabod a gofyn i werthwr sy'n ffonio nodi o ble mae'n ffonio.
Gwnewch nodyn o'r manylion canlynol er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol:
- Ei henw
- Y cyflenwr y mae'n gweithio iddo
- Ei fanylion cyswllt
Cofiwch mai dim ond ar gyfer un cyflenwr ar y tro y mae'r rhan fwyaf o werthwyr yn gwerthu. Felly byddant ond yn gallu cynnig cynigion i chi gan y cyflenwr hwnnw. Fodd bynnag, mae rhai gwefannau newid hefyd yn treialu dulliau gwerthu uniongyrchol a gallant gynnig cynigion i chi o amrywiaeth o gyflenwyr.
2 Sicrhewch fod gennych eich ffeithiau eich hun wrth law fel y gallwch gymharu cynigion
Mae eich biliau yn cynnwys gwybodaeth werthfawr am faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, faint mae'n ei gostio i chi, ac union enw'r tariff. Rhowch y manylion hyn i'r gwerthwr.
Os ydych wedi bod gyda'r un cyflenwr ers 12 mis neu fwy, erbyn hyn, bydd eich biliau yn dangos yn glir:
- Faint o ynni a ddefnyddiwyd gennych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Faint y bydd yn ei gostio i chi dros y flwyddyn i ddod, os byddwch yn defnyddio tua'r un faint o ynni.
Drwy ddefnyddio gwybodaeth wirioneddol o'ch biliau ynni, bydd gennych y siawns orau o gael amcangyfrif mwy cywir a gallu cymharu â'ch cynnig presennol.
3 Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i lofnodi, neu gytuno i gontract
Mae gan Ofgem reolau ar gyfer cwmnïau sy'n gwerthu ynni i chi er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hynny'n briodol. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth am eich defnydd o ynni i werthwr, rhaid iddo ei defnyddio wrth gyfrifo eich amcangyfrif a'ch cymhariaeth.
Rhaid i werthwr roi amcangyfrif o gost ei gynnig i chi. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, rhaid i werthwr hefyd ddangos i chi sut mae ei gynnig yn cymharu â chynnig eich cyflenwr presennol.
Dylai pob gwerthwr grynhoi elfennau pwysig y contract arfaethedig. Dylech hefyd ofyn i werthwr ar garreg y drws am gopi o'r telerau ac amodau.
Cymerwch eich amser:
- Cadarnhewch y ffeithiau ac ystyriwch y manylion
- Trafodwch y mater â rhywun arall (teulu, ffrindiau)
- Gofynnwch gwestiynau fel a ganlyn i chi'ch hun:
"Ai dyma'r cynnig gorau i mi yn seiliedig ar fy nefnydd fy hun o ynni?"
"A oes gennyf ddigon o wybodaeth i benderfynu?"
Byddwch yn ymwybodol o ddatganiadau camarweiniol y gall rhai gwerthwyr eu defnyddio. Er enghraifft:
"Rydym wedi cael ein hanfon gan Ofgem i arbed arian i chi."
"Ni sy'n berchen ar y rhwydwaith dosbarthu ynni lleol, felly ni yw'r cyflenwr rhataf."
4 Meddyliwch yn ofalus cyn cytuno i newid cyflenwr
Os byddwch yn penderfynu newid, mae gennych yr hawl i newid eich meddwl dros gyfnod ailystyried o 14 diwrnod. Efallai y byddwch am holi'r gwerthwr am hyn.
CYN i chi gofrestru, neu gytuno i newid, gofynnwch i'r gwerthwr:
"Am ba hyd y mae angen i mi gofrestru?"
"A yw'r contract yn rhoi'r hawl i mi ganslo?" (Byddwch yn ofalus os bydd yn gwrthod – mae'n ofynnol i gyflenwyr gynnig o leiaf 14 diwrnod o gyfnod ailystyried.)
"Os felly, sut y byddaf yn canslo'r contract?" (Er enghraifft, gall y contract ddweud mai dim ond yn ysgrifenedig y gallwch ganslo, a hynny o fewn cyfnod penodol).
"A fydd yn rhaid i mi dalu ffi terfynu os byddaf am adael yn gynnar?"
Dros y ffôn, mae cytuno i newid yr un fath â llofnodi contract.
Ymddygiad gwerthwyr ynni
Os byddwch o'r farn bod gwerthwr wedi ymddwyn yn amhriodol neu os rydych yn poeni y gall cynnig ynni fod wedi'i gamwerthu i chi, ffoniwch y cwmni ynni y mae'n gwerthu iddo neu ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06