Ceisiadau am wybodaeth

Gofyn am wybodaeth gan Ofgem

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 i rym ar 1 Ionawr 2005. Maent yn rhoi'r hawl i bobl ofyn am wybodaeth a gofnodwyd a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Fel un o adrannau'r Llywodraeth, rydym yn gymwys fel awdurdod cyhoeddus.

Nod hawliau gwybodaeth yw helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o'r ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau ac yn gwneud penderfyniadau.

Ceisiadau am wybodaeth

Os hoffech wneud cais am wybodaeth a gofnodwyd a ddelir gan Ofgem, cyflwynwch y cais i'n tîm Hawliau Gwybodaeth. I wneud hyn, e-bostiwch ni yn information.rights@ofgem.gov.uk (mewn testun plaen os yn bosibl) neu ysgrifennwch atom yn:

Information Rights Officer, 10 South Colonnade, Canary Wharf, London. E14 4PU.

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd. 

Gallwch hefyd gysylltu â ni i wneud cais am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar lafar drwy ffonio 020 7901 7295.

Mae'n rhaid cyflwyno pob cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ysgrifenedig (drwy e-bost neu drwy'r post), yn unol ag adran 8 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Byddwn yn ceisio ymateb i bob cais am wybodaeth o fewn y terfyn statudol o 20 diwrnod gwaith, neu o fewn 40 diwrnod gwaith o dan estyniad a ganiateir, gan ddechrau o'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cais ddod i law. 

Diogelu data

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Mae ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2018) yn rhoi'r hawl i unigolyn gael copi o'i ddata personol, yn ogystal â gwybodaeth atodol arall. Maent yn helpu unigolion i ddeall sut a pham y mae sefydliad yn defnyddio eu data, a gwirio a yw'r sefydliad yn ei wneud mewn modd cyfreithlon.

Mynediad at wybodaeth bersonol

Beth sydd angen i chi ei ddarparu i ni:

  • amserlen o ran pryd y bydd angen y wybodaeth arnoch,
  • eich enw llawn, ac
  • eich llofnod gwreiddiol (nid oes angen hyn ar gyfer ceisiadau ar-lein a cheisiadau drwy e-bost).

Os hoffech wneud Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun, e-bostiwch information.rights@ofgem.gov.uk (neu ECO.SAR@ofgem.gov.uk os yw'r cais yn ymwneud â chynlluniau ECO) neu fel arall, ysgrifennwch atom yn:

Freedom of Information Officer, 10 South Colonnade, Canary Wharf, London. E14 4PU

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd. 

Gallwch hefyd gysylltu â ni i wneud cais am fynediad at ddata gan y testun ar lafar drwy ffonio 020 7901 7295.

Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd ffi yn gysylltiedig â chais am fynediad at ddata gan y testun. 

Byddwn yn ceisio cwblhau cais am fynediad at ddata gan y testun o fewn y terfyn statudol o un mis calendr, neu o fewn tri mis calendr o dan estyniad a ganiateir, gan ddechrau o'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cais ddod i law.

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i'ch cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gallwch ofyn am adolygiad mewnol drwy e-bostio information.rights@ofgem.gov.uk. Byddwn yn ceisio cwblhau'r adolygiad o fewn 20 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau a gaiff eu hystyried o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac o fewn 40 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau a gaiff eu hystyried o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. 

Uwch-ymgynghorydd cyfreithiol nad oedd yn rhan o'r achos i ddechrau a fydd yn cynnal yr adolygiad hwn. Gall naill ai roi cyfarwyddiadau i'r tîm Hawliau Gwybodaeth gynnal gwaith pellach lle bo angen neu benderfynu bod ein hymateb gwreiddiol yn foddhaol. Yn y naill achos neu'r llall, caiff yr ymgeisydd wybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig.

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad yr adolygiad mewnol, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. SK9 5AF. 

https://ico.org.uk/