Rheolau ar gyfer defnyddio tanwydd biomas

Ym mis Hydref 2015 daeth rheolau i gefnogi tanwyddau cynaliadwy ar gyfer RHI Domestig i rym i bawb sydd â system wresogi biomas. Maent yn gymwys p'un a ydych yn y broses o ymuno â'r cynllun neu os ydych eisoes yn aelod.

Mae'n bwysig eich bod yn cydymffurfio â'r rheolau newydd hyn oherwydd gallant effeithio ar eich cymhwyster i dderbyn taliadau.

Beth yw'r gofynion?

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd sydd â system biomas ddefnyddio tanwydd cynaliadwy cymeradwy gan gyflenwr a restrir ar y Rhestr Cyflenwyr Biomas (BSL).

Hunan-gyflenwyr

Os ydych yn defnyddio tanwydd o'ch tir/coetir eich hun efallai y cewch eich ystyried yn ‘hunan-gyflenwr’. Mae'n rhaid i chi gofrestru'r tanwydd rydych yn ei ddefnyddio ar y BSL a chofrestru eich hun fel ‘hunan-gyflenwr’.

Os ydych yn hunan-gyflenwi ond hefyd yn prynu nwyddau crai rydych yn eu prosesu eich hun, mae'n rhaid i chi gofrestru ar y BSL fel 'cynhyrchydd-fasnachwr'. Nid oes angen i chi gofrestru ar wahân fel hunan-gyflenwr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru a dosbarthiadau hunan-gyflenwi, darllenwch y canllaw BSL.

Sut i brofi eich bod yn defnyddio tanwydd cymeradwy

Caiff datganiad am danwydd ei gynnwys yn eich 'datganiad blynyddol' sef sut rydym yn gweld eich bod yn dal yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau parhaus. Byddwn yn anfon hwn atoch bob blwyddyn dros e-bost i gadarnhau eich bod yn parhau i ddilyn rheolau'r cynllun. Ynddo, bydd yn rhaid i chi gofnodi eich rhif awdurdodi BSL ar gyfer pob tanwydd rydych yn ei ddefnyddio. Dylech allu dod o hyd i hwn ar eich derbynebau tanwydd. Os ydych yn hunan-gyflenwr neu'n gynhyrchydd-fasnachwr, bydd angen i chi gofnodi'r rhif awdurdodi BSL a gawsoch gan Gemserv (gweinyddwr y BSL), ynghyd â'r rhifau ar gyfer unrhyw danwydd arall rydych yn ei ddefnyddio. Mae rhifau awdurdodi BSL ar fformat 'BSL-1234567-1234'.

Cofiwch gadw cofnod o'ch pryniannau tanwydd sy'n dangos eich rhifau awdurdod tanwydd. Bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich datganiad blynyddol, ond hefyd os byddwn yn dewis eich system wresogi biomas fel rhan o'n gwiriadau archwilio parhaus.