A oes arian yn ddyledus i chi ar eich bil ynni?

Gallwch adhawlio credyd rydych o'r farn sy'n ddyledus i chi gan gyflenwr ynni unrhyw bryd. Mae'r canllaw hwn yn dangos ffyrdd y gallai balans credyd gronni. Mae hefyd yn egluro sut i'w adhawlio a phryd y dylai ad-daliadau ddigwydd yn awtomatig.

Cronni balans credyd

Gall credyd ddigwydd am sawl rheswm. Mae'n golygu eich bod wedi talu mwy na'r hyn a ddefnyddiwyd gennych i gyflenwr – felly mae arian yn ddyledus ganddo. 

Credyd ar gyfrif byw 

Mae cyfrif byw yn gyfrif sydd gennych gyda'ch cyflenwr presennol. Gallech gronni credyd drwy:

  • ddefnyddio llai o ynni na'r hyn rydych yn talu amdano. Er enghraifft, gallai eich cyflenwr oramcangyfrif eich biliau os na fydd yn cael darlleniadau mesurydd rheolaidd a chywir.
  • talu swm penodol drwy ddebyd uniongyrchol, er bod eich defnydd o ynni yn newid. Yn yr haf er enghraifft. Byddem yn disgwyl i'r credyd hwn leihau pan fyddwch yn defnyddio mwy o ynni yn y gaeaf.
  • cyflenwyr yn cymryd taliad ar adegau gwahanol mewn cyfnod bilio. Er enghraifft, os bydd cyflenwr yn cyfrifo eich biliau gan ddefnyddio data am ddefnydd chwarterol ond eich bod yn talu swm misol. Bydd rhai cyflenwyr yn gofyn am daliad ymlaen llaw pan fyddwch yn dechrau contract fel eich bod yn cadw balans credyd hefyd.
  • talu drwy fesurydd rhagdalu. Bydd eich balans mewn credyd nes iddo gael ei ddefnyddio.Gall rhoi darlleniadau mesurydd rheolaidd fel bod eich biliau'n adlewyrchu defnydd cywir helpu i atal credyd rhag cronni.

Gall mesuryddion deallus eich helpu i fonitro a rheoli'r hyn rydych yn ei wario ar eich ynni yn hawdd hefyd. 

Credyd ar gyfrif sydd wedi cau

Gallai fod credyd ar gyfrif sydd wedi cau pan fyddwch:

  • wedi newid cyflenwr neu wedi symud tŷ. Gallech fod gyda'r un cyflenwr o hyd.
  • cau ystâd perthynas sydd wedi marw ac wedi gadael arian heb ei hawlio.

Rhaid i gyflenwyr gymryd camau i ddychwelyd arian os oes gennych gredyd ar gyfrif sydd wedi cau. 

Pryd i hawlio

Credyd ar gyfrif byw

Gallwch ofyn i'ch cyflenwr eich ad-dalu unrhyw bryd. Rhaid i gyflenwyr wneud hynny'n brydlon oni fydd ganddynt resymau rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

Cyn hawlio ad-daliad, meddyliwch a allai'r canlynol fod yn wir:

  • gallai fod yn anodd talu eich biliau heb falans credyd
  • gallai eich defnydd neu eich costau gynyddu yn y misoedd nesaf (fel dros y gaeaf).

Mae cyflenwyr fel arfer yn adolygu cyfrifon bob blwyddyn gyda darlleniadau mesurydd gwirioneddol. Yna, efallai y byddant yn ad-dalu balansau credyd yn awtomatig.

Credyd ar gyfrif sydd wedi cau

Rydym wedi rhoi safonau gwarantedig ar waith i sicrhau eich bod yn cael biliau terfynol ac arian sy'n ddyledus ar ôl cau cyfrif yn gyflym.

Mae gan gyflenwyr:

  • chwe wythnos ar ôl i chi newid cyflenwr i anfon bil terfynol yn awtomatig.
  • 10 diwrnod gwaith ar ôl bil terfynol i ad-dalu balansau credyd yn awtomatig.

Os bydd cyflenwyr yn torri safon rhaid iddynt eich digolledu.

Gallwch hefyd gysylltu â nhw i hawlio ad-daliad.

Sut i hawlio

Credyd ar gyfrif byw

Cysylltwch â'ch cyflenwr. 

Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cyflenwr presennol ar fil ynni diweddar. Neu mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein os ydych yn cael biliau dibapur.

Efallai y bydd yn gofyn i chi am ddarlleniad mesurydd cyfredol.

Os nad ydych yn fodlon ar ei ymateb, gwnewch gwyn.

Credyd ar gyfrif sydd wedi cau

Cysylltwch â'ch cyflenwr blaenorol.

Sicrhewch fod gennych wybodaeth am eich hen gyfrif wrth law. Gall cyfeiriad hefyd ei helpu i ddod o hyd i'r cyfrif os na fydd gennych unrhyw hen filiau.

Rhaid i'r cyflenwr ad-dalu unrhyw gredyd a ddelir ganddo. Nid oes ots pa mor bell yn ôl y cafodd y cyfrif ei gau.

Gofynnwch am unrhyw log a enillwyd ar y balans ers i'r cyfrif gau. Nid oes raid i gyflenwyr ad-dalu hwn ond dylent wneud hynny o ran egwyddor.

Os nad ydych yn fodlon ar ei ymateb, gwnewch gwyn.

Problemau ag ad-daliadau credyd

Mae ein safonau gwarantedig yn sicrhau eich bod yn cael biliau terfynol ac arian sy'n ddyledus ar ôl cau cyfrif yn gyflym.

Os bydd cyflenwyr yn torri safon rhaid iddynt eich digolledu. Rydym yn monitro data cyflenwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn.

Mae gan gyflenwyr:

  • chwe wythnos ar ôl i chi newid i anfon bil terfynol
  • 10 diwrnod gwaith ar ôl bil terfynol i ad-dalu balans credyd
  • 10 diwrnod gwaith ar ôl nodi achos o dorri'r safonau i'ch digolledu'n awtomatig. Gallent orfod talu £30 pellach os na fyddant yn bodloni'r terfyn amser ar gyfer iawndal.

Os ydych o'r farn bod ad-daliad credyd yn ddyledus i chi neu nad ydych wedi cael eich digolledu am achos o dorri'r safonau, cysylltwch â'r cyflenwr i ddweud wrtho. Os nad ydych yn fodlon ar ei ymateb, gwnewch gwyn.
 

Safon warantedig

Iawndal*

Mae'r cyflenwr yn anfon bil terfynol o fewn chwe wythnos i newid.

£30 gan y cyn-gyflenwr

Mae'r cyflenwr yn ad-dalu arian sy'n ddyledus ar falans credyd o fewn 10 diwrnod gwaith i anfon bil terfynol.

£30 gan y cyflenwr blaenorol

*Yn weithredol o 1 Mai 2019.

Gall cyflenwyr gysylltu â chi ynghylch gwneud taliad iawndal. Dylech bob amser ofyn am ragor o wybodaeth cyn rhoi eich manylion personol. 

Ni fyddwch yn cael iawndal newid cyflenwr os ydych yn gwsmer ynni busnes neu os yw eich cyflenwr wedi mynd i'r wal

    Cymorth pellach

    Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os nad ydych yn siŵr beth yw'ch opsiynau a bod angen mwy o gymorth arnoch chi. Os ydych mewn sefyllfa fregus, gallai rhywun yn yr Uned Cymorth Ychwanegol  ddelio â'ch achos. 

    • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
    • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.

    Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu: