Ein rôl a'n cyfrifoldebau

Pwy ydym ni

Ofgem yw rheoleiddiwr ynni annibynnol Prydain Fawr.

Rydym yn gweithio i ddiogelu defnyddwyr ynni, yn enwedig pobl sy'n agored i niwed, drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn cael budd o amgylchedd glanach a gwyrddach.

Rydym yn gyfrifol am wneud y canlynol:

  • gweithio gyda'r llywodraeth, diwydiant a grwpiau defnyddwyr i sicrhau economi sero net, am y gost isaf i ddefnyddwyr
  • dileu arferion llym a gwael, gan sicrhau triniaeth deg i bob defnyddiwr, yn enwedig y rheini sy'n agored i niwed
  • galluogi cystadleuaeth ac arloesedd, sy'n gostwng prisiau ac yn arwain at gynhyrchion a gwasanaethau newydd i ddefnyddwyr.

Ein pwerau a'n dull rheoleiddio

Rydym yn gweithredu o fewn fframwaith statudol a gaiff ei bennu gan y Senedd. Mae hwn yn nodi ein dyletswyddau ac yn rhoi pwerau i ni gyflawni ein hamcanion.

Y llywodraeth sy'n gyfrifol am osod y polisi ar gyfer y sector ynni a chynnig unrhyw newidiadau i'r fframwaith statudol hwn. Mae gennym rôl glir i'w chwarae i gefnogi materion polisi megis datgarboneiddio, ac mae angen i ni weithredu o fewn y fframwaith hwn. Nid ydym yn cyfarwyddo'r polisi cyffredinol yn y sector. Fodd bynnag, gallwn dynnu sylw at unrhyw fylchau mewn polisïau pwysig sy'n effeithio ar ddefnyddwyr yn ein barn ni.

Rydym bob amser yn ceisio gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein dull gweithredu. Mae hyn yn cynnwys nodi costau a buddiannau, yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol pob penderfyniad mawr.

Dim ond lle y bo angen rydym yn rheoleiddio er mwyn diogelu buddiannau defnyddwyr, ac rydym yn ystyried yn ofalus a yw unrhyw ofyniad rheoleiddiol rydym yn ei gynnig yn gymesur. Rydym yn cynnal ymchwiliadau i ymddygiad cwmni os byddwn o'r farn ei fod wedi torri un o amodau ei drwydded neu wedi mynd yn groes i ofynion diogelu defnyddwyr neu ddeddfwriaeth gystadleuaeth.

Mae gennym y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei datgelu os byddwn o'r farn bod cwmnïau wedi torri amodau neu fynd yn groes i ofynion (heblaw am achosion o dorri cyfraith defnyddwyr lle na ellir gosod cosbau) yn ogystal â gosod dirwyon a gorchmynion gorfodi arnynt.

Gallwch ddarllen manylion am ein hymchwiliadau sydd wedi dod i ben a'r rhai sy'n mynd rhagddynt, yn ogystal â'r camau gorfodi rydym wedi'u cymryd, yn ein hadran Cydymffurfio a gorfodi

Y ffordd y cawn ein llywodraethu a'n hariannu

Cawn ein llywodraethu gan yr Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA). Mae gan yr awdurdod aelodau anweithredol a gweithredol a chadeirydd anweithredol.Mae GEMA yn pennu strategaeth, yn pennu blaenoriaethau polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar amrywiaeth eang o faterion rheoleiddiol, yn cynnwys systemau rheoli prisiau a gorfodi. Darperir ar gyfer pwerau GEMA o dan y canlynol:

  • Deddf Nwy 1986
  • Deddf Trydan 1989
  • Deddf Cyfleustodau 2000
  • Deddf Cystadleuaeth 1998
  • Deddf Menter 2002
  • mesurau a nodwyd mewn nifer o Ddeddfau Ynni.

Ceir rhagor o wybodaeth am GEMA, ein huwch-arweinwyr gweithredol a'n strwythur sefydliadol yn Ein strwythur a'n harweinyddiaeth.  

Y ffordd y cawn ein hariannu

Rydym yn adennill ein costau o'r cwmnïau trwyddedig a reoleiddir gennym. Rhaid i drwyddedeion dalu ffi drwydded flynyddol, sydd wedi'i phennu i gwmpasu ein costau. Rydym yn gwbl annibynnol ar y cwmnïau a reoleiddir gennym. 

Gweithio gyda rheoleiddwyr eraill

UKRN members

Lansiwyd Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN) ar 19 Mawrth 2014. Mae'n dwyn ynghyd benaethiaid yr amrywiol reoleiddwyr, y Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr fel arfer, i drafod materion o bryder i bawb dan sylw ac i adrodd ar ddatblygiadau diweddar yn eu sector penodol eu hunain.

Tri phrif amcan y rhwydwaith newydd yw gwella cysondeb rheoleiddio economaidd ar draws sectorau, sicrhau effeithlonrwydd gwaith rheoleiddio a gwella dealltwriaeth o'r modd y mae prosesau rheoleiddio economaidd annibynnol yn gweithio er budd defnyddwyr, marchnadoedd, buddsoddiad a pherfformiad economaidd.

Rhwydwaith yw UKRN a grëwyd gan 13 o reoleiddwyr sectoraidd y DU, yn cynnwys Ofgem. Ceir rhestr o'r aelodau, a gallwch ddysgu mwy am waith y rhwydwaith ar wefan UKRN