Gwybodaeth am y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy Domestig

Beth ydyw?

Mae'r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy Domestig (RHI Domestig) yn gynllun ariannol gan y llywodraeth i hyrwyddo'r defnydd o wres adnewyddadwy. Gall newid i systemau gwresogi sy'n defnyddio ynni sy'n cael ei ailgyflenwi'n naturiol helpu'r DU i leihau ei hallyriadau carbon a chyflawni ei thargedau o ran ynni adnewyddadwy.

Mae pobl sy'n ymuno â'r cynllun ac sy'n cadw at ei reolau yn derbyn taliadau chwarterol am saith mlynedd am y gwres glân, gwyrdd, adnewyddadwy yr amcangyfrifir y bydd eu system yn ei chynhyrchu.

Ers agor ym mis Ebrill 2014, mae miloedd o bobl eisoes wedi ymuno â'r cynllun ac wedi derbyn taliadau yn llwyddiannus. Gallwch weld beth sydd gan rhai o'r cyfranogwyr hyn i'w ddweud am y broses drwy ddarllen eich hastudiaethau achos.

Ar gyfer pwy mae'r cynllun?

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw un sy'n diwallu'r gofynion ymuno. Mae ar gael i gartrefi nad ydynt ar y grid nwy a'r rheini sydd ar y grid nwy.

Dau gynllun: Domestig ac Annomestig

Mae gan y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy ddau gynllun - Domestig ac Annomestig. Mae ganddynt dariffau, amodau ymuno, rheolau a phrosesau gwneud cais ar wahân. Rydym yn gweinyddu'r ddau.

Dim ond ar gyfer un o'r cynlluniau y gallwch wneud cais. I benderfynu pa un y dylech wneud cais amdano, edrychwch ar ein taflen ffeithiau, Y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy - Domestig neu Annomestig?

 

Mwy o wybodaeth

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf