Gwneud cais am y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy Domestig

Cyn i chi ddechrau

I gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer RHI Domestig, bydd angen y canlynol arnoch:

Anfonebau neu gofnodion yn nodi cost y system a chostau llafur ar gyfer ei gosod (gall y rhain fod yn amcangyfrifon ac ni fydd yn effeithio ar eich taliadau na'ch cymhwysedd).

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni adolygu eich cais. Gweler y tab 'Ar ôl cyflwyno eich cais' i gael ragor o wybodaeth.

I gael rhagor o help i gwblhau eich cais, gweler ein Taflen Gymorth a’r ffurflen gais.

I gael gwybodaeth lawn am RHI Domestig, gweler ein Canllawiau Hanfodol yn ein Llyfrgell Dogfennau.

Ambell beth i'w nodi

Bydd y ffurflen gais yn gweithio ar gyfer pob dyfais ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfrifiadur (yn hytrach na ffôn clyfar neu dabled) lle y bo'n bosibl.

Gofynnwn i'r ymgeisydd gwblhau'r ffurflen yn bersonol gan fod angen manylion banc a manylion personol. Os yw'n anodd i chi gwblhau'r cais arlein am eich bod yn anabl neu am nad oes gennych fynediad hawdd i gyfrifiadur, cysylltwch â'n canolfan cymorth i ymgeiswyr i gael help. I siarad a aelod o'r tîm drwy gyfrwng y Gymraeg, pwyswch opsiwn 6 pan ffoniwch.

Gweler ein telerau ac amodau llawn yn yr adran Cyhoeddiadau a Diweddariadau isod.

Beth i'w ddisgwl gan eich gosodwr

Gofynnwn i'r ymgeisydd gwblhau'r ffurflen yn bersonol. Fodd bynnag, gall eich gosodwr eich helpu i gasglu llawer o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais a pharhau i gydymffurfio â rheolau'r cynllun.

Dogfennaeth

Dylai eich gosodwr roi'r canlynol i chi:

  • tystysgrif MCS (o fewn 10 diwrnod gwaith i'r dyddiad comisiynu)
  • tystysgrif cydymffurfiaeth MCS (gyda'r rhif gosodiad MCS arno)
  • anfoneb fanwl gyda'r rhannau a'r llafur wedi'u rhestr arni
  • Dogfen Cwestiynau am Fesuryddion (ar gyfer biomas neu pympau gwres) neu i Osodwr wedi'i chwblhau (dim ond os oes angen mesurydd ar eich system wresogi). Bydd angen hon arnoch i chi gwblhau'r cwestiynau ar fesuryddion yn y ffurflen gais. Hefyd, ceir dogfen Trefniadau Mesur Amgen, os bydd ei hangen.
  • cyngor ar gynnal a chadw'r system wresogi, ei gwasanaethu a'i defnyddio'n effeithlon. Mae hyn am fod angen i chi gadw eich system wresogi mewn cyflwr gweithio da drwy gydol eich saith mlynedd ar y cynllun. Dylent hefyd egluro pa gamau allai annilysu'r warant.
  • cyngor ar sut i ddefnyddio a darllen eich mesuryddion (os oes eu hangen arnoch).

Ar ôl cyflwyno eich cais

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn yn dweud wrthych os cafodd ei dderbyn, ei wrthod neu a yw am gael ei adolygu.

Mae'r siart llif hon yn egluro beth i'w ddisgwyl a phryd.

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf