Cael mesurydd deallus

Dysgu am fuddiannau mesuryddion deallus a'ch hawliau pan fyddwch yn cael cynnig un.

Pam ydw i'n cael cynnig mesurydd deallus?

Mesuryddion deallus yw'r genhedlaeth newydd o fesuryddion ynni. Mae cyflenwyr yn eu gosod fel rhan o raglen genedlaethol gan y llywodraeth i osod mesuryddion ynni newydd yn lle hen rai. Mae'n cynnwys mesuryddion rhagdalu.

Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi i ddweud wrthych pryd y gallwch gael un. Gallwch ofyn am un hefyd.

Rhaid i bob cyflenwr ynni anelu at osod mesurydd deallus ym mhob cartref ym Mhrydain Fawr. Mae gwefan Smart Energy GB yn esbonio cynllun cyflwyno'r llywodraeth.

Eich cyflenwr sy'n gyfrifol am osod unrhyw gyfarpar mesur deallus. Mae hyn yn cynnwys:

  • mesurydd trydan a nwy deallus
  • dyfais arddangos yn y cartref. Mae hyn yn dweud wrthych am eich defnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau
  • hwb cyfathrebu. Caiff hwn ei osod wrth ymyl y mesurydd trydan. Mae'n anfon ac yn derbyn gwybodaeth dros rwydwaith diogel i'ch dyfais arddangos yn y cartref ac at eich cyflenwr fel y gall gymryd darlleniadau o bell a'ch bilio yn gywir.

Oes rhaid i mi gael mesurydd deallus?

Oni fydd rheswm da dros beidio â gwneud hynny, rhaid i gyflenwyr osod mesurydd deallus os byddant:

  • yn gosod mesurydd newydd
  • yn gosod mesurydd am y tro cyntaf, fel mewn eiddo newydd.

Gallwch ddewis peidio â derbyn cynnig i gael gosod mesurydd deallus. Gallwch hefyd ofyn am gael un yn ddiweddarach heb orfod talu. Gallai dewis peidio â chael mesurydd deallus olygu mai dewis cyfyngedig o dariffau ynni sydd gennych. Gallai rhai tariffau deallus fod yn rhatach.

    Buddiannau mesuryddion deallus

    Yn genedlaethol, mae mesuryddion deallus yn rhan bwysig o'r ymdrech i newid i system ynni lanach a mwy hyblyg. Mae angen i ni allu addasu i'r ffyrdd newydd, gwyrddach rydym bellach yn eu defnyddio i gynhyrchu ynni, megis drwy bŵer gwynt neu ynni'r haul. Hefyd i ddefnydd newidiol o ynni, fel gwefru cerbydau trydan.

    Er enghraifft, bydd mesuryddion deallus yn cofnodi eich defnydd o ynni bob 30 munud. Gallai cyflenwyr gynnig tariffau i chi sy'n lleihau eich costau os byddwch yn defnyddio pŵer pan mae'n rhatach iddynt ei brynu ar y farchnad gyfanwerthol. Neu gallai fod pan fydd yn rhatach i'w gyflenwi i chi, fel ar ddiwrnod heulog neu wyntog.

    1. Gwybodaeth sydd fwy neu lai'n wybodaeth amser real i chi am eich defnydd o ynni

      Gall eich dyfais arddangos yn y cartref eich helpu i olrhain eich costau yn hawdd ac i ddeall lle y gallai eich defnydd o ynni fod yn fwy effeithlon.

    2. Terfyn ar filiau amcangyfrifedig

      Oherwydd y cysylltiad rhwng eich mesurydd a'ch cyflenwr i rannu data.

    3. Mynediad i ystod ehangach o dariffau

      Gallai rhai tariffau deallus fod yn rhatach.Gall mesuryddion deallus weithio mewn modd rhagdalu neu gredyd.

      Os ydych yn gwsmer rhagdalu, mae manteision arbennig i chi:

      • Gall cyflenwyr ynni gynnig ffyrdd newydd a mwy hyblyg i chi ychwanegu credyd. Felly efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i siop.
      • Mae eich dyfais arddangos yn y cartref yn dangos eich balans credyd. Felly ni fyddwch yn rhedeg allan o gredyd heb yn wybod i chi.
      • Gallwch drefnu eich mesurydd i ychwanegu credyd yn awtomatig. Felly ni fyddwch heb gyflenwad os byddwch yn rhedeg allan o gredyd gyda'r nos neu pan fydd y siopau ar gau.
      • Ni fydd angen i chi newid eich mesurydd os byddwch yn newid rhwng tariff rhagdalu a thariff credyd (yn cynnwys tariffau debyd uniongyrchol).

    Gosod mesurydd deallus

    Beth i'w ddisgwyl gan eich gosodwr

    Rhaid i osodwr eich mesurydd deallus ddilyn cod ymarfer. Mae hyn yn pennu safon ofynnol ar gyfer gosod mesurydd deallus, yn cynnwys:

    • cynnig dyfais arddangos yn y cartref i chi sy'n dangos eich defnydd yn syml mewn punnoedd a cheiniogau
    • dangos i chi sut mae unrhyw gyfarpar a osodir ganddo yn gweithio
    • rhoi arweiniad ar effeithlonrwydd ynni.

    Gallwch ddysgu mwy am y broses osod a'r cod ymarfer ar wefan Smart Energy GB.

    Os ydych yn rhentu eich eiddo

    Os ydych yn talu am nwy neu drydan yn eich eiddo ar rent, gallwch ddewis cael mesurydd deallus.

    Rydym yn argymell y dylech roi gwybod i'ch landlord cyn i chi gael un. Mae hynny oherwydd gall fod rheolau yn eich cytundeb tenantiaeth ynglŷn â'r modd y caiff ynni ei gyflenwi i'r eiddo, gan gynnwys y math o fesurydd y gellir ei osod.

    Os mai eich landlord sy'n talu'r biliau ynni, ef neu hi fydd yn penderfynu a ddylid gosod mesurydd deallus ai peidio.

    Os yw eich cytundeb tenantiaeth yn nodi bod angen i chi gael caniatâd eich landlord i newid y mesuryddion yn eich cartref, ni ddylai eich atal rhag gwneud hyn heb reswm da. 

    Os yw eich signal ffôn symudol yn wan

    Mae cwmpas rhwydweithiau cyfathrebu yn un o amrywiaeth o resymau technegol a masnachol pam efallai na fydd eich cyflenwr yn cynnig mesurydd deallus i chi eto. Ond defnyddir amrywiaeth o dechnolegau yn y broses gyflwyno, nid dim ond signalau ffôn symudol.Y peth gorau fyddai i chi holi eich cyflenwr er mwyn deall pryd y gallwch gael un.

    Costau mesuryddion deallus

    O dan y trefniadau presennol, rydych yn talu am gost eich mesurydd, a'i gynnal a'i gadw, drwy eich biliau ynni. Bydd hyn yr un fath ar gyfer mesuryddion deallus. Ni chodir ffi ar wahân am fesurydd deallus nac am y ddyfais arddangos yn y cartref.

    Mesuryddion deallus a newid

    Defnyddiwch Wasanaeth Gwirio Mesurydd Deallus Cyngor ar Bopeth i wirio pa fath o fesurydd sydd gennych yn eich cartref ac a yw eich mesurydd deallus yn gweithio yn y modd deallus.

    Pan fyddwch yn newid cyflenwr gyda mesurydd cenhedlaeth gyntaf, bydd yn parhau i gofnodi eich defnydd o ynni yn gywir fel o'r blaen. Fodd bynnag, os na all y cyflenwr newydd weithredu eich mesurydd deallus yn y modd deallus, efallai y bydd angen i chi gymryd darlleniadau mesurydd â llaw dros dro. Rhaid i gyflenwyr ynni ddweud wrthych os yw hyn yn risg.

    Y Cwmni Data a Chysylltiadau (DCC) sy'n gyfrifol am y seilwaith cenedlaethol newydd sy'n galluogi cyfathrebu rhwng mesuryddion deallus a phob cyflenwr ynni. Mae mesuryddion cenhedlaeth gyntaf yn cael eu cysylltu â seilwaith cenedlaethol drwy broses uwchraddio o bell. Bydd hyn yn eu galluogi i gael eu nodweddion deallus yn ôl os cânt eu colli wrth newid.

    Dros amser, bydd pob cyflenwr yn gallu gweithredu mesuryddion cenhedlaeth gyntaf fel mesuryddion deallus.

    Ar hyn o bryd, mae cyflenwyr yn gosod mesuryddion deallus ail genhedlaeth y bydd pob cyflenwr yn gallu eu gweithredu.

    Gall mesuryddion deallus weithio fel mesurydd rhagdalu neu gredyd hefyd. Mae hyn yn golygu y gallwch fanteisio ar fwy o gynigion tariff wrth chwilio am y fargen orau. Ni fydd angen i chi newid eich mesurydd os byddwch yn newid rhwng tariff rhagdalu a thariff credyd (yn cynnwys tariffau debyd uniongyrchol). 

    Eich data deallus

    Bydd eich mesurydd deallus yn storio data am eich defnydd o ynni bob 30 munud. Gallwch weld eich data amser real a hanesyddol ar eich dyfais arddangos yn y cartref. Mae Energy UK a Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi Canllaw Data ar gyfer Mesuryddion Deallus

    Sut y caiff eich data eu defnyddio

    Mae gennych ddewis sut y caiff data eich mesurydd deallus eu defnyddio, ac eithrio pan fo'n ofynnol ar gyfer llunio eich biliau ac at ddibenion rheoleiddiedig eraill. 

    Bilio a dibenion rheoleiddiedig eraill

    Gall eich cyflenwr ynni a'r cwmnïau sy'n rhedeg pibellau a gwifrau'r rhwydwaith ynni gael mynediad at ddata i sicrhau biliau cywir a chyflawni tasgau hanfodol eraill.

    Marchnata

    Os byddwch yn rhoi eich caniatâd, gall cyflenwyr a thrydydd partïon hefyd ddefnyddio eich data i gynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd i chi. Er enghraifft, gallant roi cyngor i chi ar y tariff gorau i chi, neu gynnig tariff deallus sy'n codi symiau gwahanol ar adegau gwahanol.

    Er mwyn helpu'r system i fod yn fwy effeithlon, yn wyrddach ac yn rhatach i'w rhedeg

    Mae hefyd angen darlleniadau mesuryddion o fesuryddion deallus er mwyn helpu i wella'r rhwydwaith trydan i sicrhau ei fod yn fwy effeithlon, yn wyrddach ac yn rhatach i'w redeg. Bydd defnyddio data bob hanner awr fel hyn yn arbed swm amcangyfrifedig o £1.6 biliwn i £4.5 biliwn ar filiau ynni defnyddwyr erbyn 2045. Bydd pa mor aml y caiff data eich mesurydd deallus eu rhannu at y dibenion hyn yn dibynnu ar pryd y gosodwyd eich mesurydd deallus.

    Os ydych chi'n gwsmer domestig:

    • Os cafodd eich mesurydd deallus ei osod cyn 3 Tachwedd 2022 ac nad ydych wedi newid cyflenwr nac wedi cytuno ar gontract newydd ers y dyddiad hwnnw, byddwch yn awtomatig yn rhannu data bob diwrnod. Fodd bynnag, gallwch “optio i mewn” i rannu eich data bob hanner awr, neu “optio allan” i'w rannu bob mis yn lle hynny.
    • Os cafodd eich mesurydd deallus ei osod ar ôl 3 Tachwedd 2022 neu os ydych wedi newid cyflenwr neu gytuno ar gontract newydd ers y dyddiad hwnnw, byddwch yn awtomatig yn rhannu data bob hanner awr. Fodd bynnag, gallwch “optio i mewn” i'w rhannu bob dydd yn lle hynny.

    Os ydych yn gwsmer Microfusnes:

    • Os cafodd eich mesurydd deallus ei osod cyn 3 Tachwedd 2022 ac nad ydych wedi newid cyflenwr nac wedi cytuno ar gontract newydd ers y dyddiad hwnnw, byddwch yn awtomatig yn rhannu data bob hanner awr. Fodd bynnag, gallwch “optio allan” i'w rhannu bob mis yn lle hynny.
    • Os cafodd eich mesurydd deallus ei osod ar ôl 3 Tachwedd 2022 neu os ydych wedi newid cyflenwr neu gytuno ar gontract newydd ers y dyddiad hwnnw, byddwch yn awtomatig yn rhannu data bob hanner awr ac ni fyddwch yn cael yr opsiwn i “optio allan” i unrhyw beth arall.

    Nodweddion mesuryddion deallus

    Os bydd eich mesurydd yn rhoi'r gorau i fod yn ‘ddeallus’

    Bydd yn parhau i fesur eich defnydd o ynni yn gywir. Gallwch gymryd darlleniadau â llaw fel roeddech yn ei wneud gyda'ch mesurydd traddodiadol.

    Rhaid i'ch cyflenwr gymryd pob cam rhesymol i gael darlleniad mesurydd gennych o leiaf unwaith y flwyddyn. Gallwch hefyd roi darlleniadau mwy rheolaidd i'ch cyflenwr drwy ei ffonio.

    Y Cwmni Data a Chysylltiadau (DCC) sy'n gyfrifol am y seilwaith cenedlaethol newydd sy'n galluogi cyfathrebu deallus rhwng mesuryddion deallus a phob cyflenwr ynni. Mae mesuryddion cenhedlaeth gyntaf yn cael eu cysylltu â seilwaith cenedlaethol drwy broses uwchraddio o bell. Bydd hyn yn golygu y gall eich mesurydd gael ei nodweddion deallus yn ôl ar ôl iddo gael ei gysylltu.

    Os oes gennych fesurydd deallus cenhedlaeth gyntaf, cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod pryd y bydd eich mesurydd yn gallu cael ei uwchraddio.

    Help gyda chwynion am fesuryddion deallus

    Mae ein pwerau yn golygu na allwn ymchwilio na helpu â chwynion unigol a wnewch i gwmnïau ynni na'u gosodwyr ynghylch mesuryddion deallus. Gall Cyngor ar Bopeth a'r Ombwdsmon Ynni wneud hynny.

    Dilynwch y camau hyn ar wneud cwyn.

    Os oes gennych gŵyn am osodwr, fel arfer gallwch fynd â chwyn ymhellach gyda'i gorff masnach os na allwch ei datrys. Rhaid i osodwr eich mesurydd deallus ddilyn cod ymarfer. Mae hyn yn pennu safon ofynnol ar gyfer gosod mesurydd deallus.

    Gallwch ddysgu mwy am y cod ymarfer a gwybodaeth am gynllun cyflwyno mesuryddion deallus y llywodraeth ar wefan Smart Energy GB.