Radio Teleswitch electricity meters: canllawiau i ddefnyddiwr
Newidiadau i fesuryddion trydan gan ddefnyddio technoleg Radio Teleswitch (RTS) a sut maent yn effeithio ar gartrefi.
Mae gwasanaeth radio’r BBC sy’n cefnogi mesuryddion RTS yn dod i ben yn raddol a daw i ben yn llwyr ar 31 Mawrth 2024. Os oes gennych fesurydd trydan sy’n newid rhwng cyfraddau tariff brig ac allfrig, fel tariff Economy 7 neu 10, neu os yw’n cynnau eich gwres neu'ch dŵr poeth yn awtomatig, efallai bod gennych fesurydd sy’n defnyddio technoleg RTS.
Os nad ydych yn gwybod a oes gennych fesurydd trydan RTS, dylech gysylltu â'ch cyflenwr. Gall gweithredwr eich rhwydwaith hefyd ddweud wrthych pwy yw eich cyflenwr trydan. Chwiliwch am eich gweithredwr rhwydwaith ar wefan y Gymdeithas rhwydweithiau ynni (English).
Os oes gennych fesurydd trydan RTS
Ni ddylech golli eich cyflenwad neu weithrediad trydan cyn 31 Mawrth 2024. Bydd eich cyflenwr trydan yn cysylltu â chi i drefnu i uwchraddio eich mesurydd a rhoi mesurydd clyfar yn ei le. Disgwyliwn iddynt reoli’r broses hon cyn 31 Mawrth 2024. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, dylech gysylltu â’ch cyflenwr.
Rydym yn monitro cynnydd cyflenwyr ac wedi gofyn iddynt am ddiweddariadau ar eu gwaith i adnewyddu ac uwchraddio pob mesurydd RTS. Rhaid iddynt sicrhau bod mesurydd trydan addas wedi'i osod ar gyfer eu cwsmeriaid ac na chaiff eu gwasanaeth ei amharu.
Ardaloedd lle nad yw signalau mesurydd clyfar yn gweithio
Mae angen signal ar fesuryddion deallus i weithio. Daw'r signal o Rwydwaith Ardal Eang Mesuryddion Deallus (SM-WAN). Rhwydwaith cenedlaethol yw hwn sy’n cysylltu mesuryddion deallus a chyflenwyr ynni. Bydd eich cyflenwr trydan yn dweud wrthych a all eich cartref gysylltu â'r rhwydwaith ac os na, beth yw eich opsiynau ar gyfer gosod mesurydd newydd yn lle'ch mesurydd presennol.
Os nad ydych chi eisiau mesurydd deallus
Gallwch ddewis peidio ag uwchraddio i fesurydd deallus. Fodd bynnag, efallai na fydd gennych yr un gweithrediad ag sydd gennych ar hyn o bryd, ac efallai y byddwch hefyd wedi'ch cyfyngu gan y dewis o dariffau.
Mae’n ofynnol i gyflenwyr ynni osod mesuryddion deallus fel rhan o raglen llywodraeth y DU i ailosod mesuryddion ynni hŷn mewn cartrefi a busnesau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am fesuryddion deallus a manteision gosod un ar wefan Mesuryddion deallus (English).
Dylech siarad â'ch cyflenwr i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael i chi.
Cymorth
Gallwch gael cyngor am eich cyflenwad ynni o wefan Cyngor ar Bopeth (English) neu cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Mynnwch wybodaeth a chyngor ar ynni gan energyadvice.scot (English).