Dod o hyd i gynlluniau, grantiau a budd-daliadau i helpu ag ynni'r cartref
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddod o hyd i grantiau a chynlluniau ynni a all leihau eich biliau.
Help gyda biliau ynni uchel
Os ydych yn cael trafferth talu am ynni neu'n credu y gallech gael anhawster, cysylltwch â'ch cyflenwr. Gwyddom y bydd y cynnydd yn y Cap ar Brisiau Ynni ar 1 Ebrill a achosir gan ffactorau ynni byd-eang yn peri pryder mawr i lawer o bobl. Rydym yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i sicrhau na fydd defnyddwyr yn talu mwy na'r hyn sydd ei angen ac yn cael eu cefnogi gan gyflenwyr sut bynnag y bo modd.
Mae ein rheolau'n golygu bod yn rhaid i gyflenwyr gynnig cynlluniau talu y gallwch eu fforddio a gallwch ofyn am ‘gredyd brys’ os byddwch yn defnyddio mesurydd rhagdalu ac na allwch ychwanegu credyd. Mae'r rhan fwyaf wedi ymrwymo hefyd i ymrwymiadau newydd a luniwyd ar y cyd ag Ofgem a chorff masnach y diwydiant Energy UK i'ch helpu y gaeaf hwn.
Mae'r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Cymorth Biliau Ynni i helpu pobl i ddelio â biliau sy'n codi.
Mae gan Charis adnodd gwirio cymhwysedd ar gyfer grantiau a budd-daliadau a gall eich helpu drwy'r broses gwneud cais.
-
Cynlluniau'r llywodraeth a budd-daliadau
Mae llawer o gynlluniau'r llywodraeth yn cefnogi mesurau arbed ynni am ddim neu'n cynnig cymorthdaliadau. Nod y rhain yw helpu pobl sy'n agored i niwed ac annog effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi. Caiff rhai cynlluniau eu darparu'n uniongyrchol drwy eich cyflenwr.
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael y taliadau canlynol gan y llywodraeth:
- Taliad Tanwydd Gaeaf – taliad tanwydd i bobl a anwyd ar neu cyn 25 Medi 1956.
- Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf – taliad blynyddol i gartrefi yng Nghymru sy'n cael rhai budd-daliadau.
- Taliad Tywydd Oer – taliad am bob 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth.
- Gostyngiad Cartrefi Cynnes – gostyngiad i rai pobl sy'n cael Credyd Pensiwn neu i rai pobl mewn cartrefi incwm isel.
- Cronfa Gymorth i Gartrefi – pecyn cyllid i helpu cartrefi sy'n agored i niwed. Cysylltwch â'ch cyngor lleol am gyngor a help i fanteisio ar y gronfa.
- Cymorth Gwres y Gaeaf i Blant – taliad blynyddol fesul plentyn a pherson ifanc anabl dan 19 oed sy'n byw yn yr Alban.
Holwch ynghylch:
- Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni a'r Fargen Werdd.
- Yng Nghymru, Nyth.
- Yn yr Alban, Home Energy Efficiency Programme Scotland (HEEPS).
Cadarnhewch a allwch gael eich talu i gynhyrchu eich pŵer a'ch gwres adnewyddadwy eich hun drwy'r:
-
Grantiau a gwasanaethau gan gyflenwyr ynni
Mae llawer o gwmnïau ynni yn cynnig cynlluniau neu grantiau i helpu gyda chostau ynni a gwresogi cartref. Mae rhai ar agor i unrhyw un – nid oes raid i chi fod yn gwsmer.
Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod beth mae'n ei gynnig.
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhestru grantiau a gynigir gan gyflenwyr mwy o faint.
Holwch ynghylch cael eich cynnwys ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich cyflenwr. Gwasanaeth cymorth ynni am ddim yw'r gwasanaeth hwn, os ydych yn agored i niwed.
-
Grantiau gan elusennau
Mae gan Gadewch i ni Siarad wybodaeth am grantiau a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.
Mae gan Turn2Us adnoddau chwiliad grantiau a lleolydd cyngor.
-
Gwiriad Ynni Cartref
Mae gan Gadewch i ni Siarad wybodaeth am grantiau a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.
Mae gan Turn2Us adnoddau chwiliad grantiau a lleolydd cyngor.
Rhagor o gymorth
Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os nad ydych yn siŵr beth yw'ch opsiynau a bod angen mwy o gymorth arnoch chi. Os ydych mewn sefyllfa fregus, gallai rhywun yn yr Uned Cymorth Ychwanegol ddelio â'ch achos.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:
- Ewch i wefan energyadvice.scot
- Ffoniwch 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs
- E-bostiwch energyadvice.scot