Canllawiau ynni cartref amgen

Rheolau, hawliau a chymorth i ddefnyddwyr ynni domestig sydd ar gontract ynni annomestig.

Os ydych yn byw mewn cartref amgen, bydd y rheolau y bydd yn rhaid i gyflenwyr ynni, perchnogion safle a landlordiaid eu dilyn yn dibynnu ar y math o gontract ynni sydd ganddynt. Er enghraifft, contract ynni annomestig neu gontract ynni domestig.

Mae'n debygol y cewch eich cyflenwad ynni drwy gontract annomestig os byddwch yn byw yn y canlynol:

  • ar safle teithwyr
  • ar safle cartref mewn parc
  • ar gwch preswyl
  • mewn llety gwaith dros dro

Os ydych yn byw mewn un o'r cartrefi hyn, nid yw'n debygol y bydd gennych gontract eich hunan gyda chyflenwr domestig. Byddwch yn talu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio i berchennog y safle neu'r landlord, a byddan nhw'n talu cyflenwr ynni ar eich rhan.

Os ydych chi'n byw mewn safle busnes, e.e. uwchben siop, tafarn, gwesty neu ar fferm, efallai y byddwch yn cael eich cyflenwad ynni drwy fesurydd ynni'r busnes. Mae hyn yn golygu y byddwch fwy na thebyg yn cael eich cyflenwad o gontract annomestig.

Cartrefi sy'n cael eu cyflenwi gan ynni amgen

Os yw eich cartref yn cael ei wresogi gan nwy petrolewm hylif (LPG), caiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Bydd gan gartrefi sydd wedi'u cysylltu i rwydwaith gwres reolau a safonau mwy llym pan fyddwn yn dechrau eu rheoleiddio. Darllenwch sut y gallwch gymryd rhan a rhowch eich barn i ni am y ffordd y dylem reoleiddio ein rhwydweithiau gwres.

Rheolau y mae'n rhaid i berchnogion safle a landlordiaid eu dilyn

Os bydd perchnogion safle a landlordiaid yn cyflenwi ynni i ddefnyddwyr domestig, ni allant elwa o'r ynni y maent yn ei ailwerthu i'r bobl sy'n byw yno. Gelwir hyn yn uchafswm cyfeiriad pris ailwerthu.

Dim ond am yr un pris ag y gwnaethon nhw dalu am ynni y gall perchnogion safle a landlordiaid werthu ynni i chi. Ni allant godi arnoch am unrhyw ynni maen nhw'n ei ddefnyddio, er enghraifft, i redeg swyddfa'r safle.

Gellir codi ffi ychwanegol arnoch am bethau fel darlleniadau mesurydd ac anfonebu ar ben eich costau ynni. Dim ond os yw'r ffi hon wedi'i chynnwys fel cytundeb, a elwir hefyd yn delerau penodol, yn eu cytundeb ysgrifenedig, y gellir ei chodi ar bobl sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau.          

Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol os bydd eich costau ynni wedi'u cynnwys yn eich rhent neu'ch ffi llain.

Eich hawliau

Os ydych yn byw mewn cartref amgen ac yn talu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio i berchennog y safle neu'r landlord, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i berchennog y safle neu'r landlord beth yw'r gyfradd fesul uned
  • gofyn am gael gweld y biliau a'r contract rhwng perchennog y safle neu'r landlord a'r cyflenwr ynni
  • gofyn sut mae'r taliadau biliau ynni yn cael eu cyfrifo

Ni allwn helpu gydag anghydfodau unigol ynghylch cyfeiriad uchafswm pris ailwerthu. Os na ellir datrys anghydfod gyda pherchennog y safle neu'r landlord, gallwch fynd ag ef i'w ddatrys gan y llysoedd sifil.

Pan fydd pethau'n mynd o chwith

Gallwch gael help a chymorth o hyd os nad oes gennych gontract domestig.

Os ydych yn talu am eich ynni i berchennog safle neu landlord ac nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr ynni, dylech gysylltu â nhw. Hefyd gallwch gael cyngor ynni gan Cyngor ar Bopeth.

Os ydych yn talu am eich ynni yn uniongyrchol i gyflenwr annomestig ac nad ydych yn fodlon, gallwch gwyno iddo. Gall microfusnesau godi eu cwyn â'r Ombwdsmon Ynni os nad ydynt yn fodlon ar y ffordd y mae eu cwyn wedi cael ei datrys.

Materion yn ymwneud â chyflenwi ynni

Cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith os bydd angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch os cewch doriad yn eich cyflenwad. Chwiliwch am eich gweithredwr rhwydwaith ar wefan y Gymdeithas rhwydweithiau ynni . Nid oes angen i chi cael contract gyda chyflenwr i gysylltu â'ch gweithredwr rhwydwaith.

Help gyda biliau gwresogi

Gallwch gael cymorth i'ch help gyda'ch biliau gwresogi gan Lywodraeth y DU. Cadarnhewch a ydych yn gymwys i gael y canlynol:

Os ydych yn byw yn yr Alban, gwiriwch os gallwch gael Cymorth Gwresogi yn ystod y Gaeaf ar gyfer Plant.