Y cap ar brisiau ynni

Y cap ar brisiau ynni yw'r swm uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi arnoch fesul uned o ynni a thâl sefydlog os ydych chi ar dariff amrywiol safonol.

Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2024 , bydd y cap ar brisiau ynni yn cael ei osod ar £1,690 y flwyddyn ar gyfer cartref nodweddiadol sy'n defnyddio nwy a thrydan ac yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae'r swm hwn yn £238 yn is na'r cap a osodwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2024 (£1,928).

Mae'r cap ar brisiau yn seiliedig ar ddefnydd ynni cartref nodweddiadol. Darllenwch sut y caiff defnydd ynni cartref nodweddiadol ei gyfrifo yn ein canllawiau ar Ddefnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd.

Mae'r cap ar brisiau hefyd yn sicrhau bod y prisiau i bobl ar dariff amrywiadwy safonol (tariff diofyn) yn deg a'u bod yn adlewyrchu cost ynni.

Mae cap ar bris eich contract os ydych yn talu am eich trydan a nwy drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • credyd safonol (gwneir y taliad pan fyddwch yn cael eich bil trydan a nwy)
  • Debyd Uniongyrchol
  • mesurydd rhagdalu
  • Mesurydd Economi 7 (E7)

Prisiau uned a thaliadau sefydlog trydan a nwy, 1 Ionawr hyd at 30 Mehefin 2024

 

Cyfraddau uned lefel y cap ar brisiau ynni a'r tâl sefydlog

1 Ionawr i Mawrth 31

Cyfraddau uned lefel y cap ar brisiau ynni a'r tâl sefydlog

1 Ebrill i 30 Mehefin 2024

Trydan

28.62 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 53.35 ceiniog

24.50 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 60.10 ceiniog

Nwy

7.42 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 29.60 ceiniog

6.04 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 31.43 ceiniog

Caiff y ffigurau eu talgrynnu i ddau le degol ac maent yn seiliedig ar y cyfartaledd ar gyfer pobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys TAW.

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni eich rhanbarth

Bydd yr union gyfradd a godir arnoch am bob uned yn dibynnu ar lle rydych chi'n byw, sut rydych yn talu eich bil a'r math o fesurydd sydd gennych. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth

Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau ynni

Mae gwahanol gostau wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau. Bydd unrhyw newidiadau i'r costau hyn yn effeithio ar swm y cap ar brisiau ynni pan gaiff ei adolygu. Er enghraifft, os bydd swm yr hyn sy'n rhaid i gyflenwr ei dalu yn cynyddu, bydd lefel y cap ar brisiau yn cynyddu. Os bydd y gost yn gostwng, bydd lefel y cap ar brisiau yn gostwng. 

Darllenwch sut y mae'r costau wedi newid ar bob lefel y cap ar brisiau

Newidiadau i'r costau rhwng 1 Ionawr a 30 Mehefin 2024, talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Cost Ionawr i Mawrth 2024 Ebrill i Mehefin 2024 Newid
Prynu ynni i gwsmeriaid (costau cyfanwerthu)  £985 £720 -£265
Addasiadau dros dro annisgwyl i'r costau (addasiad lwfans)  £11 £28 £17
Adeiladu, adfer ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn cludo ynni (costau rhwydwaith)  £381 £368 -£13
Costau busnes y cyflenwr (gweithredu)  £221 £223 £2
Cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth (polisi)  £157 £188 £30
Lwfans Enillion Cyn Llog a Threthi (EBIT) £43 £40 -£3
Costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)  £21 £18 -£3
Costau ychwanegol ar gyfer cyflenwi ynni i gwsmeriaid sy'n defnyddio dulliau talu gwahanol

(cynnydd yn y dull o dalu) 

£16 £15 -£1
Gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu o fis Ebrill i fis Mehefin 2024)  £0 £10 £10
TAW (5%) £92 £80 -£11
Cyfanswm  £1,928 £1,690 -£238

Mae'r costau wedi cael eu talgrynnu ac mae'n bosibl nad ydynt yn gyfwerth â'r cyfanswm. 

Mae'r lwfans lefelu yn gost newydd a fydd yn cael ei hychwanegu at y cap ar brisiau o 1 Ebrill 2024. Mae hyn yn golygu y bydd y bobl sy'n talu am eu hynni drwy ddefnyddio mesurydd rhagdalu yn talu'r un tâl sefydlog â'r rhai sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. 

Rydym yn monitro cyflenwyr i sicrhau nad yw cyfraddau tariff amrywiol safonol (tariff diofyn) yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a osodir gan y cap ar brisiau ynni. Darllenwch fwy am y ffordd rydym yn diogelu'r bobl hyn yn ein polisi ar y cap ar brisiau ynni (tariff diofyn).

Dyddiadau lefel y cap ar brisiau ynni 

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis. Bydd y lefelau ar gyfer y cyfnodau nesaf yn cael eu cyhoeddi erbyn: 

  • 24 Mai 2024 – y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024 
  • 27 Awst 2024 – y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2024  
  • 25 Tachwedd 2024 – y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025