Beth yw ECO?
Cynllun effeithlonrwydd ynni'r llywodraeth ym Mhrydain Fawr yw'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Dechreuodd y cynllun ym mis Ebrill 2013 ac mae wedi cael ei ddiwygio gyda threigl amser. Cafwyd y newidiadau diweddaraf yn 2017, ac maent yn berthnasol i fesurau a osodwyd ers 1 Ebrill 2017. Rydym wedi galw fersiwn ddiweddaraf y cynllun yn ECO2t.
Ceir crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun yn 2017 ar wefan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Gallwch ddarllen mwy am y fersiwn flaenorol o ECO ar ein gwefan.
Beth yw'r prif rwymedigaethau?
1. O dan y Rhwymedigaeth Lleihau Allyriadau Carbon (CERO), mae'n rhaid i gyflenwyr sy'n dod o dan y rhwymedigaeth hyrwyddo 'prif fesurau', gan gynnwys inswleiddio to a waliau a chysylltiadau â systemau gwresogi ardal. Hefyd, mae'n rhaid cyflwyno rhai CERO mewn ardaloedd gwledig.
2. O dan y Rhwymedigaeth Lleihau Costau Gwresogi'r Cartref (HHRCO), mae'n ofynnol i gyflenwyr ynni ddarparu mesurau sy'n gwella gallu cartrefi incwm isel neu gartrefi sy'n agored i niwed i wresogi eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys camau sy'n arwain at arbedion gwres, megis newid neu drwsio boeler.
O dan ECO2, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2017, roedd cyflenwyr hefyd yn cyflenwi yn unol â rhwymedigaeth arall a alwyd yn Rhwymedigaeth Arbed Carbon yn y Gymuned (CSCO). Roedd yn ofynnol i gyflenwyr gyrraedd eu targedau CSCO erbyn 31 Mawrth 2017. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu cyflawniadau cyflenwyr yn erbyn y targedau hyn yn ddiweddarach yn 2017.
Cewch wybod mwy yn adran cymorth i wella'ch cartref ein gwefan.
Cynnydd tuag at fodloni rhwymedigaethau
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau misol sy'n rhoi trosolwg o gynnydd cyflenwyr ynni tuag at gyrraedd eu targedau.
Ein rôl yn ECO
Mae Ofgem yn gweinyddu'r cynllun ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae ein dyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
- neilltuo cyfran o dargedau i gyflenwyr sy'n dod o dan y rhwymedigaeth
- monitro cynnydd cyflenwyr a phenderfynu a ydynt wedi cyflawni eu rhwymedigaethau
- adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol
- archwilio, sicrhau cydymffurfiaeth ac atal a chanfod twyll.
BEIS sy'n pennu polisi cyffredinol y cynllun.
Cysylltu â'r tîm ECO
Oes gennych chi gwestiwn arall? Cysylltwch â'r tîm ECO, sy'n barod i'ch helpu.