Skip to contents

Ynni - y Fargen Orau - cyngor ar-lein 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
 

Mae Ofgem a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth wedi bod yn cydweithio ers 2008 i ddatblygu a rhoi cyngor wyneb-yn-wyneb i gwsmeriaid drwy'r cynllun Ynni - y Fargen Orau. Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr, gan helpu cwsmeriaid drwy roi cyngor iddynt. 

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o saith ffilm fer sy'n trafod negeseuon allweddol y cynllun - sut y gallwch leihau eich costau ynni a pha help sydd ar gael gan gyflenwyr a'r Llywodraeth os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni.
 


Mae rhagor o wybodaeth am gefndir yr ymgyrch Ynni - y Fargen Orau ar gael ar ein gwefan, neu gallwch gysylltu â Sophie.holmes@citizensadvice.org.uk.
 
 

Mae'r ymgyrch yn gweithio drwy roi cyflwyniadau ymarferol i ddefnyddwyr incwm isel a staff rheng flaen sy'n gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd. Caiff yr ymgyrch ei chynnal yn Lloegr, Cymru a’r Alban - (mae dolenni yn agor mewn ffenestr bori newydd) gan ein partneriaid.

 

Nid oes gan Ofgem rôl uniongyrchol mewn ymholiadau ynni cyffredinol na datrys cwynion cyffredinol. Os, ar ôl gwylio'r fideos hyn, yr hoffech gael rhagor o gyngor, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08454 04 05 05.