Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
I gael gwybodaeth am y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, cysylltwch â Llais Defnyddwyr, sef yr hyrwyddwr statudol i ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
C: Beth yw'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
A: Mae'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ad-daliad blynyddol a ddarperir i ddefnyddwyr agored i niwed sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn risg o fod mewn tlodi tanwydd. Gallai unigolion fod yn gymwys drwy'r Grŵp Craidd neu'r Grŵp Ehangach. Yr ad-daliad ar gyfer 2011/12 fydd £120, gan godi i £130 ar gyfer 2012/2013.
C: Sut rydw i'n cael gwybod os ydw i'n gymwys?
A: Os byddwch yn gymwys ar gyfer y Grŵp Craidd, bydd ymarfer cyfateb data gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eich nodi'n gymwys yn awtomatig, a byddwch yn cael llythyr gan Lywodraeth EM yn nodi hynny.
Mae'r Grŵp Craidd ar gyfer 2011/12 wedi'i ddiffinio fel cwsmeriaid sydd ond yn cael elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn (dim Credyd Cynilion). Y bwriad ar gyfer 2012/2013 yw ehangu'r grŵp craidd i gynnwys mwy o bensiynwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Directgov.
Y cyflenwyr eu hunain sy'n pennu cymhwysedd ar gyfer y Grŵp Ehangach a bydd yn amrywio fesul cyflenwr. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr trydan yn y lle cyntaf er mwyn cadarnhau a ydych yn bodloni ei feini prawf cymhwysedd penodol. Mae manylion cyswllt pob cyflenwr ar gael ar wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Mae gwybodaeth am feini prawf gwahanol y Grŵp Ehangach ar gael ar wefan Llais Defnyddwyr.
C: Pryd a sut y byddaf yn cael fy ad-daliad?
A: Os byddwch yn gymwys i gael ad-daliad drwy'r Grŵp Craidd, nid oes angen i chi wneud dim. Cewch eich nodi'n gymwys yn awtomatig a chaiff eich cyfrif ei gredydu erbyn mis Mawrth 2012. Yn yr un modd, os byddwch yn gwneud cais i'ch cyflenwr am y Grŵp Ehangach a bydd yn eich derbyn, caiff y credyd ei roi erbyn mis Mawrth 2012. Os byddwch yn gwsmer rhagdalu, bydd gan gyflenwyr drefniadau ar waith er mwyn i chi gael yr ad-daliad. Byddwch yn derbyn llythyr gan eich cyflenwr yn nodi bod yr ad-daliad hwn yn rhan o'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
C: Credaf fy mod yn gymwys ond rwyf heb gael yr ad-daliad. Beth ddylwn i ei wneud?
A: Os credwch eich bod yn gymwys i gael ad-daliad drwy'r Grŵp Craidd ond nad ydych wedi cael llythyr gan Lywodraeth EM, cysylltwch â'ch cyflenwr trydan i sicrhau bod eich enw a manylion eich cyfeiriad yn gywir. Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar 0845 603 9439. Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael ad-daliad drwy'r Grŵp Ehangach, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch cyflenwr trydan am ragor o wybodaeth. Mae manylion cyswllt pob cyflenwr ar gael ar wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
C: Rwyf wedi derbyn llythyr gan fy nghyflenwr yn nodi y gallwn fod yn gymwys i gael ad-daliad drwy'r Grŵp Ehangach ac mae'n gofyn i mi roi gwybodaeth neu ddogfennau, beth ddylwn i ei wneud?
A: Er mwyn i'r cyflenwr roi ad-daliad i chi, bydd angen iddo gael cadarnhad gennych eich bod yn gymwys a bod gennych dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau hynny. Os hoffech gael yr ad-daliad, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr i roi'r wybodaeth y gofynnir amdani.
C: Pa help arall sydd ar gael i mi?
A: Efallai y bydd cyflenwr ynni yn rhoi cymorth arall i gwsmeriaid y tu allan i'r cynllun ac maent hefyd yn gweithio gyda sefydliadau trydydd parti ac elusennau i roi cymorth anuniongyrchol o dan nifer o Fentrau'r Diwydiant. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr trydan i gadarnhau pa help arall sydd ar gael i chi os na fyddwch yn gymwys i gael ad-daliad drwy'r Grŵp Craidd neu'r Grŵp Ehangach. Efallai yr hoffech gysylltu â'r canlynol am ragor o wybodaeth:
- Cyswllt Defnyddwyr (08454 04 05 06) sef y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y Llywodraeth.
- Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes (0800 33 66 99) lle mae staff arbenigol canolfan gyswllt wrth law i roi cyngor ar ynni i chi, cymorth i hawlio budd-daliadau a gwasanaeth atgyfeirio i gyflenwyr.
C: Rwy'n poeni na allaf dalu fy miliau ynni, gyda phwy y gallaf gysylltu am help?
A: Am wybodaeth am bwy i gysylltu â hwy neu am ba gymorth arall sydd ar gael i chi, gweler tudalen we Cymorth i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed.
C: Beth os ydw i ar dariff cymdeithasol? A fydd y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar hyn?
A: Mae'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn disodli'r Cytundeb Gwirfoddol sydd wedi cynnig tariffau cymdeithasol ac ad-daliadau yn ôl disgresiwn. O dan elfen Gwariant Etifeddiaeth Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gall cyflenwyr barhau i gynnig y cymorth hwn ar sail gyfyngedig. Bydd darpariaeth y tariffau cymdeithasol hyn yn gostwng fesul tipyn dros bedair blwyddyn y cynllun ac yn y pen draw bydd y rhain yn cael eu disodli gan elfennau Craidd, elfennau Ehangach ac elfennau Mentrau Diwydiant y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Os byddwch ar dariff cymdeithasol, efallai yr hoffech gysylltu â'ch cyflenwr ynni am ragor o wybodaeth.
C: Rwy'n anfodlon ar y cymorth neu'r cyngor y mae fy nghyflenwr wedi eu rhoi i mi, gyda phwy y gallaf gysylltu?
A: Am wybodaeth am bwy i gysylltu â hwy, gweler tudalen we Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Ofgem.