Skip to contents

Gwybodaeth i Ddefnyddwyr 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

 

Mae Ofgem yn diogelu buddiannau defnyddwyr nwy a thrydan ym Mhrydain Fawr drwy hyrwyddo cystadleuaeth a rheoleiddio cwmnïau rhwydwaith monopoli.

 

Hyrwyddo Cystadleuaeth

 

Adolygiad o'r Farchnad Fanwerthu

Yn dilyn ymchwiliad i'r marchnadoedd manwerthu nwy a thrydan ym Mhrydain Fawr, daethom i'r casgliad bod angen cymryd camau i sicrhau bod y system yn gweithredu'n fwy effeithiol er budd defnyddwyr. Gall nifer o nodweddion yn y farchnad sy'n lleihau effeithiolrwydd cystadleuaeth beri risg i ddefnyddwyr.

 

Nod ein cynigion ar gyfer gweithredu yw:

 

  • ei gwneud hi'n llawer haws i ddefnyddwyr nodi pwy sy'n cynnig y tariff rhataf
  • ei gwneud hi'n haws i gyflenwyr newydd ymuno â'r farchnad
  • gorfodi ac atgyfnerthu'r atebion a gynigiwyd gan ymchwiliad Probe yn y farchnad ddomestig a'r farchnad annomestig
  • gwella tryloywder arferion cyfrifyddu cwmnïau.

 

Gallwch ddarllen manylion llawn yr Adolygiad o'r Farchnad Fanwerthu a dilyn hynt yr adolygiad hwnnw yn:

 

Ofgem: Adolygiad o'r Farchnad Fanwerthu

 

Hylifedd

 

Mae hylifedd yn cyfeirio at y gallu i brynu neu werthu cynnyrch - sef trydan yn yr achos hwn - heb achosi newid sylweddol yn ei bris.

 

Rydym yn cynnig ei gwneud hi'n haws i gwmnïau ymuno â'r farchnad drwy wella argaeledd cynhyrchion pŵer cyfanwerth. Canfu ein gwaith monitro bod hylifedd yn isel mewn rhai rhannau o farchnad trydan cyfanwerth Prydain. Gall hyn olygu ei bod hi'n anodd i gyflenwyr annibynnol (y rheini heb eu prosesau cynhyrchu eu hunain) brynu a gwerthu yr hyn sydd ei angen arnynt yn y farchnad gyfanwerth, ac felly i ymuno â'r farchnad honno a ffynnu oddi mewn iddi.

 

Rydym wedi cynnig y dylid ei gwneud yn ofynnol i'r chwe chyflenwr ynni mawr (y Chwe Mawr) werthu 25 y cant o'r pŵer a gynhyrchir ganddynt mewn arwerthiant. O ran cyfaint, mae hyn yn cyfateb i bron hanner y pŵer a ddefnyddir gan gartrefi a gallai felly wella'r farchnad yn sylweddol i gyflenwyr annibynnol. Dylai'r newid hwn arwain at gystadleuaeth gryfach a bargen well i ddefnyddwyr.

 

Hylifedd: sicrhau bod y farchnad drydan yn fwy cystadleuol i ddefnyddwyr

 

Rheoleiddio'r farchnad nwy a thrydan

 

Gorfodi

Mae Ofgem yn gweithredu er budd defnyddwyr drwy ymchwilio i gwmnïau a allai fod yn gwneud y canlynol:

 

  • mynd yn groes i delerau eu trwydded;
  • gweithredu mewn ffordd wrth-gystadleuol; neu
  • mynd yn groes i gyfraith diogelu defnyddwyr.

 

Pan fyddwn yn canfod bod cwmni wedi gweithredu'n amhriodol, mae gennym bwerau i geisio unioni'r cam hwnnw, er enghraifft drwy godi dirwyon (a gaiff eu trosglwyddo'n llawn i'r Trysorlys) a chyhoeddi gorchmynion terfynol a gorchmynion dros dro. Ymhlith yr enghreifftiau o gamau a gymerwyd gennym yn ddiweddar mae:

 

  • Setliad arfaethedig a ddylai olygu y bydd EDF yn buddsoddi £4.5m i helpu cwsmeriaid agored i niwed yn dilyn ymchwiliad i arferion gwerthu;
  • Dirwyon o £4.3m a £900,000 yn y drefn honno yn erbyn National Grid Gas (NGG) a Northern Gas Networks (NGN) am fethu â chyrraedd digwyddiadau lle roedd nwy yn dianc ac asesu'r digwyddiadau hynny mewn pryd;
  • Dirwy o £2.5m a £2m yn erbyn British Gas Trading Ltd a RWE npower plc yn y drefn honno am fethu ag ymdrin â chwynion gan gwsmeriaid yn briodol;
  • Dirwy o £15m yn erbyn National Grid am fethu â chydymffurfio â Deddf Cystadleuaeth 1998 yn ei gontractau mesuryddion hirdymor; 
  • Gorchymyn dros dro yn erbyn First Utility yn ei gwneud hi'n ofynnol iddo gydymffurfio â thelerau ei drwydded cyflenwi i gynnig mesuryddion rhagdalu i gwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd talu.

 

Ceir manylion llawn ein gweithgarwch gorfodi yn:

 

Ofgem – Gorfodi

 

Defnyddwyr a chwmnïau ynni: ateb ymholiadau a datrys cwynion

Dylai cwmnïau ynni allu ateb ymholiadau gan ddefnyddwyr ac egluro sut y gall unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a ddyfynnir ganddynt fod yn berthnasol i ddefnyddwyr.

 

Gwyddom hefyd fel defnyddiwr y gallwch wynebu anawsterau gyda chwmni ynni ac y gall anghydfodau godi. I ddechrau, dylech bob amser geisio datrys eich anghydfod yn uniongyrchol gyda'r cwmni ynni. Mae cyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith yn ddarostyngedig i safonau caeth ar gyfer ymdrin â chwynion ac mae'n ofynnol iddynt sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i ymdrin â chwynion gan gwsmeriaid domestig a microfusnesau.

 

Ar ôl wyth wythnos, os na fydd eich cwyn wedi'i datrys mewn ffordd sy'n foddhaol i chi (neu cyn hynny os bydd y cwmni ynni yn rhoi gwybod i chi na all ymchwilio ymhellach i'ch cwyn), efallai y byddwch am gysylltu â Gwasanaethau'r Ombwdsmon: Ynni. Mae'r Ombwdsmon yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion unigol a wneir yn erbyn cwmnïau ynni gan ddefnyddwyr.

 

Gwefan Gwasanaethau'r Ombwdsmon: Ynni

 

Gallwch gael cyngor gan sefydliadau eraill fel Llais Defnyddwyr a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, gan gynnwys cyngor ar sut i gyflwyno a datrys cwyn gyda chwmni ynni.

 

Darllenwch fwy: Datrys cwyn gyda chwmni ynni

 

Ofgem a Chwynion gan Ddefnyddwyr

Nid yw Ofgem yn ymchwilio i gwynion unigol gan ddefnyddwyr yn erbyn cwmnïau ynni. Fodd bynnag, rydym yn cael gwybodaeth a data rheolaidd gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cwmnïau ynni, yr Ombwdsmon, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a Llais Defnyddwyr am lefelau cwynion, patrymau o ran natur cwynion a materion sy'n peri pryder. Lle y bo'n briodol, byddwn yn ystyried cymryd camau yn erbyn cyflenwyr a gweithredwyr rhwydwaith yn unol â'n pwerau gorfodi.

 

Mae Tîm Materion Defnyddwyr Ofgem yn rheoli ymholiadau ac atgyfeiriadau sy'n gysylltiedig â defnyddwyr am bolisïau a swyddogaethau Ofgem. Nid yw'n ymdrin â chwynion unigol gan ddefnyddwyr yn erbyn cwmnïau.

 

Am ragor o wybodaeth ewch i Ofgem: Cysylltu â ni