Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Nid yw Ofgem yn pennu prisiau ynni. Rôl Ofgem yw diogelu buddiannau defnyddwyr ynni presennol a defnyddwyr ynni yn y dyfodol. Caiff prisiau ynni eu pennu gan y cyflenwyr eu hunain yn seiliedig ar eu hasesiad o'r farchnad gyfanwerthu a'r farchnad fanwerthu. Mae cyfrifoldeb ar gwmnïau ynni i egluro eu newidiadau mewn prisiau a'u helw i'w cwsmeriaid a'u buddsoddwyr.
Mae'r gydberthynas rhwng prisiau ynni cyfanwerthu a phrisiau ynni manwerthu yn gymhleth. Mae cyflenwyr yn prynu nwy a thrydan cyn iddo gael ei gyflenwi i gwsmeriaid. Ni fyddant bob amser yn trosglwyddo unrhyw gynnydd mewn costau cyfanwerthu ar unwaith ac ni fydd gostyngiadau mewn prisiau cyfanwerthu yn arwain o reidrwydd at ostyngiadau ar unwaith ar filiau cwsmeriaid.
Bydd y pris y byddwch yn ei dalu am eich ynni yn seiliedig ar y contract y byddwch wedi cytuno arno gyda'ch cyflenwr ynni. Os byddwch o'r farn bod y pris rydych yn ei dalu yn rhy uchel, dylech edrych ar eich contract ac ystyried newid cyflenwr.
Yr Adolygiad o'r Farchnad Fanwerthu (RMR)
Nododd ein Hadolygiad cyfredol o'r Farchnad Fanwerthu sawl maes o bryder a awgrymodd nad oedd y farchnad yn gweithio fel y dylai. Er mwyn ymdrin â hyn, rydym wedi cynnig y canlynol (ymhlith pethau eraill):
- ehangu'r diffiniad o fusnesau a gwmpesir gan ofynion ar gyflenwyr i roi rhybudd a gwybodaeth am gontractau
- rhoi rheolau newydd ar waith i ddiogelu cwsmeriaid busnes rhag camwerthu.