Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Mae Ofgem yn awyddus i wella diogelwch i gwsmeriaid busnes. Ym mis Ionawr 2010, gwnaethom gyflwyno rheolau newydd i helpu busnesau lleiaf Prydain (microfusnesau) i ymgysylltu fwy â'r farchnad. Dangosodd ein hymchwiliad i'r farchnad manwerthu ynni yn 2008 fod lefelau ymwybyddiaeth ymhlith busnesau bach o ran pryd y gallant hysbysu eu cyflenwr eu bod am newid cyflenwr ar ôl i'w cytundebau tymor sefydlog ddod i ben, yn isel. Mae'r rheolau yn mynd i'r afael â hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr roi gwybodaeth lawer cliriach ar delerau ac amodau contractau er mwyn i ficrofusnesau allu deall y wybodaeth hon ac er mwyn sicrhau na chânt eu rhoi ar gytundebau tymor sefydlog heb iddynt sylweddoli hynny.
Yn dilyn ein hadolygiad o'r farchnad fanwerthu y llynedd, rydym yn awyddus i wella diogelwch i fusnesau. Rydym yn cynnig y dylid ehangu'r rheolau sy'n bodoli eisoes i ficrofusnesau y cyfeirir atynt uchod, er mwyn sicrhau y caiff busnesau bach mwy o faint eu cwmpasu ganddynt.
Rydym hefyd yn cynnig rheolau newydd i ddiogelu busnesau yn well rhag arferion gwerthu annheg. Nid oes gennym gylch gwaith ar hyn o bryd i gymryd camau gorfodi yn erbyn broceriaid sy'n ymdrin â busnesau, felly rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth roi mwy o bwerau i ni gymryd camau gorfodi yn erbyn achosion o gamwerthu yn y farchnad fusnes. Rydym am i gwsmeriaid allu ymddiried mewn broceriaid ynni ac rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i helpu yn hyn o beth. Rydym hefyd yn cynnig amod trwydded newydd i reoleiddio sut mae cyflenwyr busnes annomestig a'u cynrychiolwyr yn rhyngweithio â chwsmeriaid busnes. Ac rydym yn edrych yn ofalus ar weithredoedd cyflenwyr er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau pan fyddant yn atal cwsmer rhag newid i gyflenwr arall.
Gwnaethom gyhoeddi ein cynigion diweddaraf ar gyfer ymgynghori ar 26 Hydref 2012. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 21 Rhagfyr 2012, byddwn yn ystyried yr ymatebion gyda'r nod o roi'r cynigion terfynol ar waith yn ystod haf 2013.
Darllenwch fwy: Adolygiad o'r Farchnad Fanwerthu - diogelu busnesau
Beth yw'r rheolau presennol ar gontractau microfusnesau?
Maent yn datgan os ydych yn ficrofusnes, y bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi yn nodi manylion ei gynnig tymor penodol newydd ar ddyddiad sydd o leiaf tua 60 diwrnod cyn i'ch contract ddod i ben.
Unwaith y byddwch yn cael y llythyr hwn, bydd gennych o leiaf tua 30 diwrnod i gysylltu â'ch cyflenwr a rhoi gwybod y canlynol iddo:
- pa un a ydych am gytuno ar ei gynnig newydd, neu
- pa un a ydych am newid i gyflenwr newydd pan ddaw eich cytundeb i ben.
Darllenwch ein hadran cwestiynau ac atebion ar gontractau microfusnesau er mwyn cael gwybod mwy am y rheolau hyn.
Sut y byddaf yn gwybod pa un a yw'r rheolau yn berthnasol i'm busnes?
Mae microfusnes yn gwmni sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol (fel y'u nodwyd gan y Llywodraeth)
- nid yw'n defnyddio mwy na 200,000 kWh o nwy y flwyddyn, neu
- nid yw'n defnyddio mwy na 55,000 kWh o drydan y flwyddyn, neu
- mae ganddo lai na deg cyflogai (neu nifer cyfwerth ag amser llawn) a hefyd drosiant blynyddol neu gyfanswm mantolen flynyddol nad yw'n fwy na €2m.
Gellir diffinio eich cwmni fel microfusnes at ddibenion nwy yn unig, at ddibenion trydan yn unig, neu ar gyfer y ddau. Rhaid i'r nwy neu'r trydan gael ei gyflenwi ar safle annomestig.
Gallwch ddarllen mwy am y rheoliadau sy'n diogelu microfusnesau yn