Skip to contents

Bilio 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

 

Beth yw ôl-filio?

Bydd ôl-filio yn digwydd pan na fydd cyflenwyr yn anfon bil at gwsmer am beth amser ond y bydd wedyn yn anfon bil am ynni a ddefnyddiwyd ond nad anfonwyd bil ar ei gyfer yn flaenorol. Mae hyn yn digwydd am nifer o resymau, e.e. pan fydd cyflenwyr yn gwneud camgymeriadau wrth ddarllen mesurydd neu pan fydd mesuryddion wedi cael eu calibradu'n anghywir. 

 

Beth y mae Ofgem yn ei wneud am hyn?

Rydym wedi dod â chyflenwyr a grwpiau defnyddwyr ynghyd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Gofynnwyd i'r cyflenwyr ddatblygu cyfres o safonau hunanreoleiddiol yn llywodraethu'r ffordd y maent yn ymdrin â'u cwsmeriaid microfusnes mewn perthynas ag ôl-filio. Ar hyn o bryd maent wedi cytuno i roi terfyn amser gwirfoddol ar waith o ran y cyfnod y gellir ôl-filio cwsmer microfusnes ar ei gyfer, sef tair blynedd ar gyfer trydan a phedair i bum mlynedd ar gyfer nwy.  Gellir cymharu hyn â'r arfer presennol lle y mae cyflenwyr fel arfer yn anfon bil at gwsmeriaid am hyd at chwe blynedd. Disgwylir i gyflenwyr ymrwymo i'r safonau a'u rhoi ar waith o fis Ebrill 2012. Mae hyn yn gam ymlaen, ond mae Ofgem o'r farn y gellid cyfyngu trefniadau ôl-filio i un flwyddyn ar gyfer cwsmeriaid microfusnes, lle mai'r cyflenwr sydd ar fai. Mae Nwy Prydain, SSE ac E.ON eisoes wedi ymrwymo i hyn. Bydd Ofgem yn parhau i weithio ar y mater ac mae wedi gofyn yn ffurfiol am fanylion achosion o ôl-filio gan gyflenwyr yn 2011 er mwyn ategu'r broses ymhellach. Nodir ein safbwynt polisi ar ôl-filio yn y llythyr agored hwn o fis Rhagfyr 2011.

 

Ble y gallaf gael gafael ar y safonau ôl-filio i ficrofusnesau?

 

Mae copi o'r safonau ar gyfer microfusnesau ar gael yn.

 

Bilio yn seiliedig ar ddarlleniadau mesuryddion

O fis Tachwedd 2011, mae gofyniad newydd (SLC 21B) ar gyflenwyr mewn perthynas â darlleniadau mesuryddion gan gwsmeriaid. Os bydd cwsmer (domestig neu fusnes) yn darparu darlleniad mesurydd i'w gyflenwr, neu os bydd y cyflenwr yn darllen y mesurydd ei hun, RHAID i'r cyflenwr gymryd pob cam rhesymol i:

 

  1. Adlewyrchu'r darlleniad mesurydd yn y datganiad nesaf o'r cyfrif neu'r bil (gan gynnwys anfoneb neu gais am daliad), os bydd y cyflenwr o'r farn bod y darlleniad yn rhesymol gywir,
  2. cysylltu â'r cwsmer i gael darlleniad mesurydd newydd ganddo os nad yw o'r farn bod y darlleniad yn gywir