Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Yn aml gall trydan a nwy a gaiff ei brynu gan gyflenwr awdurdodedig ei werthu i eraill gan y prif brynwr. Gelwir y broses hon yn ailwerthu. Ofgem sy'n pennu'r rheolau sy'n llywodraethu'r broses o ailwerthu trydan a nwy; gelwir y rheolau hyn yn ddarpariaethau'r Uchafswm Pris Ailwerthu neu MRP.
Defnydd domestig
Dim ond i nwy a thrydan a gaiff ei ddefnyddio at ddibenion domestig y mae'r darpariaethau MRP yn berthnasol.
Yr uchafswm y gall landlordiaid neu "ailwerthwyr" ei godi am nwy neu drydan yw'r swm y maent wedi talu amdano, ynghyd â TAW ar y gyfradd briodol. Os bydd y cyflenwr ynni presennol yn codi tâl sefydlog, gellir ei adennill ar sail pro-rata yn unol â lefel defnydd pob un a gaiff ei gyflenwi ar eiddo neu safle penodol.
Defnydd masnachol
Nid yw'r darpariaethau MRP yn berthnasol i nwy neu drydan a gaiff ei ailwerthu i'w ddefnyddio ar safleoedd masnachol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'n debygol y caiff cost y defnydd o ynni ei phennu fel cytundeb deuffordd rhwng y landlord a'r tenant. Felly daw'r mater yn fater cytundebol rhwng y ddwy ochr sy'n rhan o'r contract.
Lle bydd defnyddiwr masnachol yn canfod achos o dorri rhwymedigaethau contract, neu'n amau dilysrwydd telerau ac amodau contract, fe'i cynghorir i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Mae Ofgem wedi cyhoeddi canllawiau manylach i ailwerthwyr sydd yr un mor ddefnyddiol i denantiaid neu ddefnyddwyr. Gellir llwytho'r canllawiau i lawr o'r ddolen ganlynol:
Taflen ffeithiau canllawiau i ailwerthwyr (diweddarwyd 2005) PDF 345 Kb
Gellir cael rhagor o wybodaeth fanwl am lunio'r polisi hwn yn y dolenni isod: