Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Gwneud cwyn neu ymholiad am gwmni ynni neu’r diwydiant ynni
Nid yw Ofgem yn delio’n uniongyrchol â chwynion nac ymholiadau gan ddefnyddwyr.
Pan fo gan ddefnyddwyr ynni domestig neu ddefnyddwyr ynni busnes micro gŵyn neu ymholiad yn ymwneud â’u cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith, dylent gysylltu â’u cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith yn gyntaf.
Rhagor o wybodaeth am y trefniadau newydd.
Pan fo defnyddwyr eisoes wedi cysylltu â’u cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith neu os bydd angen gwybodaeth am faterion ynni cyffredinol neu gyngor arnynt, dylent gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr.
Beth yw Cyswllt Defnyddwyr?
Cyswllt Defnyddwyr yw’r gwasanaeth ffôn ac ar-lein a ariennir gan y llywodraeth sy’n cynnig gwybodaeth am faterion defnyddwyr ac yn rhoi cyngor arnynt. Ariennir Cyswllt Defnyddwyr gan y Swyddfa Masnachu Teg a chaiff ei ddarparu mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol. Gall Cyswllt Defnyddwyr gyfeirio defnyddwyr i’r corff perthnasol i ddelio â’u hymholiad a gall hefyd ymchwilio i gwynion syml defnyddwyr.
Cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr
Dros y ffôn: Gallwch eu ffonio’n uniongyrchol ar 08454 04 05 06.
Gallwch gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr drwy eu gwasanaeth cwynion ac ymholiadau ar-lein – bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.
Ffordd arall o ddatrys anghydfodau – Yr Ombwdsmon Ynni
Bellach gall defnyddwyr domestig a defnyddwyr busnesau micro gael cymorth ychwanegol gydag anghydfodau gyda’u cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith.
Sefydlwyd yr Ombwdsmon Ynni yn ffurfiol ym mis Hydref 2008 i ddelio â chwynion yn erbyn unrhyw un o’r cwmnïau cyflenwi neu weithredwyr rhwydwaith. Bellach gall yr Ombwdsmon hefyd edrych ar gwynion a godir gan gwsmeriaid busnesau micro sy’n ffitio o fewn diffiniad penodol (gweler y daflen ffeithiau ‘Newidiadau i Gynrychiolwyr Defnyddwyr’ am y diffiniad). Gall yr Ombwdsmon Ynni ofyn i’ch cyflenwr neu weithredwr rhwydwaith ymddiheuro a gall gymryd camau ymarferol i ddatrys anghydfod ac, mewn rhai achosion, gwneud dyfarniad ariannol. Efallai y gallant ddelio â’ch cwyn os ydych wedi cyrraedd diwedd proses gwyno eich cyflenwr neu os yw eich cwyn wedi para am fwy nag 8 wythnos.
Cysylltu â’r Ombwdsmon Ynni
Ffôn: 0845 055 0760 neu 01925 530263
Ffacs: 0845 055 0765 neu 01925 530264
Ffôn testun: 18001 0845 0511513 neu 18001 01925 430886
E-bost: enquiries@energy-ombudsman.org.uk
Gwefan yr Ombwdsmon Ynni - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd
Defnyddwyr – Rôl Ofgem
Mae Tîm Materion Defnyddwyr Ofgem yn rheoli ymholiadau sy’n ymwneud â’n polisïau ac yn sicrhau y cyfeirir materion i’r cwmnïau cyflenwi ynni, gweithredwyr rhwydwaith a Cyswllt Defnyddwyr mewn ffordd briodol.
Ffôn y Tîm: 020 7901 7295
Ffacs: 020 7901 7196
E-bost: consumeraffairs@ofgem.gov.uk
Llyfrgell Ofgem
Gall llyfrgell Ofgem ateb ymholiadau ymchwil sy’n gysylltiedig â gwaith Ofgem. Noder na all ddelio ag ymholiadau cyffredinol defnyddwyr. Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu gŵyn, dilynwch y cyngor uchod.
E-bost: library@ofgem.gov.uk
Ffôn: 020 7901 7003 neu 020 7901 7119
Ffacs: 020 7901 7378
Ymweliadau drwy apwyntiad yn unig, mae angen 24 awr o rybudd.