Skip to contents

Defnyddwyr yn Gyntaf 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
 

Ym mis Mawrth 2007, gwnaethom lansio ein menter Defnyddwyr yn Gyntaf, rhaglen a gynlluniwyd i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau wrth wraidd popeth a wnawn.  Mae Defnyddwyr yn Gyntaf yn helpu Ofgem i wella ein dealltwriaeth o'r pethau sydd bwysicaf i ddefnyddwyr.

Mae rhan o raglen Defnyddwyr yn Gyntaf yn cynnwys gwaith ymchwil i ddefnyddwyr er mwyn llywio ein penderfyniadau ar bolisïau allweddol. Mae'r ymchwil hefyd yn rhoi cyfle i'r sefydliad i gyd gael gwybod am farn a theimladau defnyddwyr ac mae'n arwain tuag at sicrhau bod ymgynghoriadau Ofgem yn canolbwyntio'n fwy ar y defnyddwyr ac yn fwy cyfeillgar iddynt.

Ehangodd y rhaglen ym mis Hydref 2008 er mwyn cynnwys Panel Defnyddwyr yn Gyntaf. Mae'r Panel yn cynnwys 100 o gwsmeriaid domestig bob dydd, a recriwtiwyd o bum lleoliad ledled Prydain Fawr. Bydd y Panel yn cyfarfod o leiaf deirgwaith y flwyddyn i drafod materion allweddol sy'n effeithio ar eu rôl yn y farchnad ynni, yn ogystal â materion allweddol eraill sy'n gysylltiedig ag ynni. Mae Grŵp Herio hefyd wedi'i sefydlu i sicrhau y caiff safbwynt y defnyddiwr ei ystyried mewn perthynas â rheoli prisiau cludo a dosbarthu nwy (RIIOT1 a RIIOGD1). Mae'r grŵp, sy'n cynnwys wyth arbenigwr ym maes defnyddwyr, yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' Ofgem ac yn cynnig arbenigedd ychwanegol na allem ei gael drwy ymchwil i'r farchnad.

Os oes gennych gŵyn neu ymholiad o ran eich cwmni cyflenwi ynni neu'ch gweithredwr rhwydwaith neu os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch ynghylch materion ynni cyffredinol, ewch i'r dudalen hon.

Os hoffech gysylltu ag Ofgem ynghylch ein rhaglen Defnyddwyr yn Gyntaf anfonwch neges e-bost at consumer.first@ofgem.gov.uk