Skip to contents

Diogelwch boeleri, gwres canolog ac offer nwy 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg 
 

Wythnos Diogelwch Nwy

Cynhelir Wythnos Diogelwch Nwy rhwng 12fed a 18fed Medi 2011.

Caiff Wythnos Diogelwch Nwy ei chynnal gan y Gofrestr Diogelwch Nwy, sef yr unig restr swyddogol o beirianwyr nwy sy'n cael gweithio'n gyfreithlon ar eich boeler nwy, eich popty nwy a'ch tân nwy. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob peiriannydd nwy fod ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, sef CORGI gynt.
 
Nod Wythnos Diogelwch Nwy yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch nwy a phwysigrwydd gofalu am eich offer nwy. Gall offer nwy sydd wedi'u gosod a'u gwasanaethu'n wael achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyn carbon monocsid. Mae carbon monocsid yn nwy hynod wenwynig. Ni allwch ei weld, ei flasu na'i wynto, ond gall ladd yn gyflym heb rybudd.
 
Os ydych yn rhentu eich cartref, mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod offer nwy a ddarperir i chi mewn cyflwr da. Dylai drefnu gwiriad diogelwch nwy bob 12 mis a rhoi cofnod o'r gwiriad i chi.
Drwy ofalu am eich offer nwy'n briodol, rydych yn gofalu am eich cartref a'ch anwyliaid. Dilynwch y cyngor da isod i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel o ran nwy:
 

  • gwnewch yn siŵr mai dim ond peiriannydd sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy sy'n gweithio ar eich offer nwy
  • gwnewch yn siŵr fod offer nwy yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd a'u bod yn cael gwiriad diogelwch nwy bob blwyddyn
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am gael gweld cerdyn adnabod Cofrestr Diogelwch Nwy y peiriannydd

I gael cyngor ar ddiogelwch nwy neu i ddod o hyd i beiriannydd a chadarnhau ei fod yn gymwysedig, ewch i wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy yn www.GasSafeRegister.co.uk. Neu, ffoniwch y llinell gymorth am ddim ar 0800 408 5500.
 

Ni all Ofgem ddelio â chwynion sy'n ymwneud â gwasanaethu neu atgyweirio offer, boeleri na systemau gwres canolog nwy, hyd yn oed os ceir y gwasanaethau hyn drwy eich cyflenwr ynni neu ei chwaer-gwmni.

Os oes gennych gŵyn am y gwasanaeth cwsmeriaid a gafwyd ar gyfer materion o'r fath, bydd angen i chi gwyno'n uniongyrchol i'r cwmni dan sylw. Os oes angen gwybodaeth arnoch am eich hawliau fel defnyddiwr, gallwch gael canllawiau gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth neu drwy ffonio 08454 04 05 05.
 

Boeleri a gwres canolog


Mae'r diwydiant gwasanaethu a gosod offer nwy yn hollol agored i gystadleuaeth ac nid yw Ofgem erioed wedi cael y cylch gwaith i reoleiddio'r diwydiant penodol hwn. Fodd bynnag, mae'r math hwn o waith yn amodol ar ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr arferol ac felly os oes angen cyngor arnoch gallwch gysylltu â linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, eich Swyddfa Safonau Masnach leol neu'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Os hoffech gael rhagor o ganllawiau neu wybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gwres canolog efallai yr hoffech gysylltu â'r Cyngor Gwybodaeth am Wresogi a Dŵr Poeth drwy ei wefan - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd neu drwy ffonio: 0845 600 2200 neu e-bostio: info@centralheating.co.uk.
 

Cynllun sgrapio boeleri y llywodraeth


Gall hyd at 125,000 o gartrefi yn Lloegr sydd â boeleri "Gradd G" wneud cais drwy'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am daleb a fydd yn eu galluogi i gael £400 oddi ar bris boeler "Gradd A" modern, newydd neu system wresogi adnewyddadwy fel boeler biomás neu bwmp gwres. I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Sgrapio Boeleri y Llywodraeth ac i gofrestru, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni drwy fynd i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni   - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd, neu drwy ffonio'r llinell gyngor ar 0800 512 012.
 

Gosodwyr offer nwy a diogelwch


Os ydych yn ceisio dod o hyd i osodwr offer nwy arall, os oes gennych bryderon am ansawdd neu ddiogelwch gwaith a gyflawnwyd gan osodwr offer nwy, neu os ydych yn credu bod gwaith wedi'i gyflawni gan berson nad yw'n gymwys, dylech gysylltu â'r Gofrestr Diogelwch Nwy drwy eu gwefan  -  bydd dolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd neu drwy ffonio 0800 915 0485. Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r corff gwarchod cenedlaethol ar gyfer diogelwch nwy a gall roi manylion gosodwyr nwy eraill yn eich ardal yn ogystal ag ystyried cwynion am ei aelodau.

Noder: o 1 Ebrill 2009 disodlwyd y cynllun cofrestru a gynigiwyd gan CORGI gyda'r Gofrestr Diogelwch Nwy. Os oes angen i chi ffonio gosodwr nwy cofrestredig dylech bellach chwilio am frand y 'Gofrestr Diogelwch Nwy'.
 

Gollyngiadau nwy


Os gallwch arogli nwy neu os ydych yn amau bod nwy yn gollwng, dylech ffonio'r llinell gymorth diogelwch nwy genedlaethol ar 0800 111 999. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i'w ddefnyddio ac mae ar gael 24 awr y dydd.
 

Ymwybyddiaeth o garbon monocsid


Mae carbon monocsid (CO) yn nwy di-liw, diarogl, di-flas, gwenwynig a gynhyrchir gan danwyddau carbon, gan gynnwys nwy, olew, pren a glo nad yw'n llosgi'n llawn. Mae tanwyddau carbon yn ddiogel i'w defnyddio. Dim ond pan nad yw'r tanwydd yn llosgi'n iawn y cynhyrchir gormod o CO, sy'n wenwynig. I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth, megis pa fesurau atal y gallwch eu cymryd yn erbyn amlygiad i garbon monocsid a beth yw symptomau gwenwyn carbon monocsid ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd
 
Ceir gwybodaeth ychwanegol drwy:

CO-Awareness -  bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd sy'n sefydliad sy'n cefnogi sawl dioddefwr gwenwyn Carbon Monocsid (CO) a gwenwyn Hylosgi Gwenwynig (TC), eu teuluoedd a'u ffrindiau.

CO-Gas Safety (Y Gymdeithas Diogelwch Carbon Monocsid a Nwyon) - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd sy'n gweithio i geisio lleihau damweiniau o wenwyn Carbon Monocsid a pheryglon nwy eraill. Maent yn lobïo dros newidiadau ac yn helpu ac yn rhoi cyngor i ddioddefwyr.