Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Yn draddodiadol mae deddfwriaeth a diogelwch rheoliadol defnyddwyr ym Mhrydain yn canolbwyntio ar ddiogelu cwsmeriaid ynni domestig, nid busnesau. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2010 cyflwynodd Ofgem nifer o fesurau diogelu ar gyfer cwsmeriaid busnesau micro a drafodir isod.
Mesurau diogelwch newydd ar gyfer cwsmeriaid busnesau micro
Y llynedd cwblhaodd Ofgem archwiliad i farchnad cyflenwi ynni Prydain a oedd yn cynnwys edrych yn fanwl ar sector busnesau bach y farchnad a'r materion sy'n effeithio arno. Nododd yr archwiliad fod y busnesau lleiaf yn brwydro i ymgysylltu â'r farchnad ynni ac felly rydym wedi cyflwyno rheolau newydd i roi gwell diogelwch iddynt.
Diffinnir busnes micro fel cwmni sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol:
- sy'n defnyddio llai na 200,000 kWh o nwy y flwyddyn, neu
- sy'n defnyddio llai na 55,000 kWh o drydan y flwyddyn, neu
- sydd â llai na deg cyflogai (neu sydd gyfwerth ag amser llawn) a throsiant blynyddol neu fantolen flynyddol nad yw'n fwy na €2m.
Mae taflen ffeithiau ar gael sy'n rhoi gwybodaeth am y mesurau diogelwch newydd hyn. Mae gwybodaeth gefndirol lawn ar gael am yr archwiliad i'r farchnad cyflenwi ynni.
Cwynion busnesau micro
Os oes gennych gŵyn gyda chwmni ynni, dylech ddilyn ei broses gwyno gyhoeddedig. Os na chaiff eich cwyn ei datrys yn foddhaol o fewn 8 wythnos - yn gynharach os bydd eich cyflenwr yn egluro na allant wneud dim byd arall i'ch helpu - a bod eich busnes yn cydweddu â'r diffiniad o fusnes micro uchod, efallai y gall yr Ombwdsmon Ynni edrych ar eich cwyn. Mae taflen ffeithiau ar gael sy'n rhoi rhagor o wybodaeth.
Os byddwch yn wynebu unrhyw anawsterau yna gall linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, gynnig canllawiau pellach ar sut i fynd â'r mater yn ei flaen. Ffôn: 08454 040506
Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau hefyd ar gael gan Llais Defnyddwyr, yr eiriolwr defnyddwyr - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.