Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys atebion i amrywiaeth o gwestiynau am gysylltiadau nwy a thrydan newydd a symud mesuryddion. Cliciwch ar y cwestiynau isod i gael yr atebion:
Sut gallaf gysylltu â chyflenwad trydan?
Sut gallaf gael cyswllt nwy domestig untro?
Sut gallaf drefnu cysylltiad nwy i nifer o eiddo? - Bydd y ddolen hon yn agor mewn ffenestr porwr newydd yn Saesneg
Sut gallaf gael cysylltiad nwy untro i safleoedd diwydiannol a masnachol? - Bydd y ddolen hon yn agor mewn ffenestr porwr newydd yn Saesneg
Beth os wyf yn anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan gludwr nwy trwyddedig neu weithredwr rhwydwaith trydan?
Sut gallaf symud mesurydd nwy?
Pwy all symud mesurydd nwy?
Canllaw ar sut i wneud cais am ostyngiad tlodi tanwydd ar gysylltiadau nwy newydd
Beth os wyf yn anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan gludwr nwy trwyddedig neu weithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan?
Os ydych yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir dylech, i ddechrau, gysylltu â'r cwmni y mae gennych gontract â hwy ar gyfer y cysylltiad a chodi cwyn yn unol â'u gweithdrefnau cyhoeddedig.
Os, ar ôl 8 wythnos (neu'n gynt os ydych chi a'r cwmni yn cytuno na ellir gwneud dim), rydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Ynni - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd* a all ddarparu cynllun gwneud iawn i ddelio ag anghydfodau sydd heb eu datrys. Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol i'r Ombwdsmon gyfeirio anghydfodau at Ofgem er mwyn penderfynu arnynt yn ffurfiol.
* Bydd yr Ombwdsmon Ynni yn setlo anghydfodau rhwng cwmnïau ynni a defnyddwyr domestig a busnesau micro. Diffinnir busnesau micro fel person sy'n cael ei gyflenwi, neu sydd am gael ei gyflenwi, ar safleoedd gyda defnydd blynyddol o drydan nad yw'n fwy na 55,000 kWh; neu nwy nad yw'n fwy na 200,000 kWh; neu lai na 10 cyflogai a throsiant blynyddol nad yw'n fwy na 2m.
Nôl i frig y dudalen
Symud mesuryddion nwy
I ddechrau, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ynni neu’r cludwr nwy lleol er mwyn trefnu i'ch mesurydd nwy gael ei symud. Y cludwr nwy fydd yn symud y mesurydd fel arfer, nid y cyflenwr, felly gallwch gysylltu â'r cludwr yn uniongyrchol yn hytrach na chysylltu â'ch cyflenwr. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau gall gosodwr Cofrestredig Diogelwch Nwy fynd ati i symud mesurydd - ceir rhagor o wybodaeth am hyn isod. Os bydd angen manylion cyswllt eich cyflenwr neu gludwr nwy lleol arnoch, neu ragor o gyngor ar sut i symud eich mesurydd nwy, cysylltwch â linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08454 04 05 05.
Beth sydd angen ei wneud pan gaiff mesurydd nwy ei symud?
Os bydd angen ail-leoli eich mesurydd nwy, yn aml mae’n rhaid:
- addasu'r bibell gyflenwi a'r falf rheolaeth frys (ECV),
- symud y mesurydd i'w leoliad newydd, ac
- ailgyfeirio'r pibellau gosod i gysylltu ag allfa'r mesurydd.
Lleolir yr ECV yn union gerllaw'r mesurydd nwy fel arfer ac mae’n eich galluogi i ddiffodd cyflenwad nwy eich eiddo pe bai argyfwng nwy. Gall fod naill ai y tu mewn i'r adeilad, ar wal allanol neu mewn rhai achosion ar dir yr eiddo.
Lleolir yr ECV ar ben pellaf y bibell gyflenwi ac mae'r ddwy eitem hyn yn eiddo ac yn gyfrifoldeb i'r cludwr nwy trwyddedig sy'n cludo nwy i'ch eiddo. Gallwch gadarnhau pwy yw eich cludwr nwy trwyddedig drwy gysylltu â'ch cyflenwr nwy.
Gall eich cludwr nwy trwyddedig neu ddarparwr gwasanaeth cymwysedig amgen symud eich mesurydd nwy. Fodd bynnag, nid oes llawer o ddarparwyr gwasanaeth amgen o'r fath yn barod i wneud y gwaith hwn a gall y gwaith cynhwysol hwn gostio llawer.
Bydd y gwaith gosod mesurydd nwy fel arfer yn cynnwys y mesurydd ei hun a rheolydd bach, sy'n gweithio fel dyfais ddiogelwch ac yn sicrhau bod y mesurydd yn derbyn pwysedd cyson o nwy. Rheolwr Asedau Mesuryddion sy'n gyfrifol am y gwaith gosod hwn fel arfer, a gaiff ei gontractio gan eich cyflenwr nwy i ddarparu mesurydd, ei gynnal a chadw, ei atgyweirio a’i newid yn unol â Chod Ymarfer y Rheolwyr Asedau Mesuryddion.
Mae'r pibellau gosod yn cysylltu ag allfa'r mesurydd nwy i gludo'r nwy i'r offer nwy unigol (popty, boeler, tân ac ati) yn yr adeilad. Perchennog yr adeilad sy'n berchen ar y pibellau gosod hyn ac yn gyfrifol amdanynt fel arfer, ac sydd hefyd yn gyfrifol am lynu wrth Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998.
Mae'r ddogfen yn y blwch 'Adnoddau Pellach' yn cynnwys llun sy'n labeli'r holl gydrannau a ddisgrifir uchod.
Nôl i frig y dudalen
A all peiriannydd Cofrestredig Diogelwch Nwy symud y mesurydd?
Mae'n bosibl y gall mesurydd nwy gael ei symud heb orfod addasu'r bibell gyflenwi a'r ECV a gallai hyn leihau faint o waith sydd ei angen, a'i gost. Fodd bynnag ceir rhai gofynion penodol y mae'n rhaid eu bodloni:
- gall Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2007 fod yn gymwys,
- mae’r GSIUR yn nodi, pan gaiff mesurydd ei osod neu ei symud mewn unrhyw eiddo yn y naill achos neu'r llall i bellter sy'n fwy na 2 fedr o, neu allan o olwg, y rheolaeth frys agosaf sydd yn yr eiddo, y dylai'r cyflenwr nwy sicrhau y caiff hysbysiad parhaol wedi'i eirio'n addas ei arddangos mewn lle amlwg ar y mesurydd neu'n agos ato yn nodi lleoliad y rheolaeth honno, a'r
- Safon Brydeinig BS6400 (i nodi'r gofynion technegol sy'n angenrheidiol i gynnal gwaith gosod mesurydd sy'n ddiogel ac yn gyfreithlon.)
Dylai Gosodwr Mesuryddion a Gymeradwywyd gan Ofgem neu osodwr Cofrestredig Diogelwch Nwy fod yn gyfarwydd â hyn, a bydd yn gallu ymgymryd â'r gwaith a threfnu iddo gael ei archwilio gan osodwr a gymeradwywyd. Ceir rhestr o Osodwyr Mesuryddion a Gymeradwywyd gan Ofgem yma.
Fodd bynnag, am mai eiddo a chyfrifoldeb y Rheolwr Asedau Mesuryddion fydd gwaith gosod y mesurydd yn ôl pob tebyg - sef eich cyflenwr ynni yn y rhan fwyaf o achosion - byddai'n angenrheidiol i'r Gosodwr Mesuryddion a Gymeradwywyd gan Ofgem neu'r gosodwr Cofrestredig Diogelwch Nwy gysylltu â'r Rheolwr Asedau Mesuryddion yn gyntaf, i gytuno i'r gwaith gael ei wneud. Bydd yn rhaid iddo ddarbwyllo'r Rheolwr Asedau Mesuryddion y caiff y gwaith ei ddylunio a'i osod yn gywir, y bydd yn ddiogel, na chaiff safon gyffredinol hirdymor y gwaith o osod y mesurydd ei pheryglu, ac yn olaf, cytuno ar delerau contract.
Byddai angen i osodwr Cofrestredig Diogelwch Nwy nad yw'n Osodwr Mesuryddion a Gymeradwywyd gan Ofgem lynu wrth y gofynion adrodd a osodwyd gan y diwydiant ac sy'n ofynnol o dan y gyfraith o ran datgysylltu ac ailgysylltu mesuryddion nwy, a threfnu archwiliad terfynol gan Osodwr Mesuryddion a Gymeradwywyd gan Ofgem.
Mewn gwirionedd felly, gall fod yn fwy ymarferol i'r Rheolwr Asedau Mesuryddion fynd ati i wneud y gwaith ei hun, gan ddefnyddio’r gweithlu sydd ganddo eisoes neu Osodwr Mesuryddion penodedig a Gymeradwywyd gan Ofgem. Mae'n debyg y gallai'r fethodoleg hon arwain at gostau is na mynd ati i addasu'r bibell gyflenwi/ECV.
Nôl i frig y dudalen