Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Ofgem yw Swyddfa’r Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Diogelu defnyddwyr yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn gwneud hyn drwy hybu cystadleuaeth, lle y bo’n briodol, a rheoleiddio’r cwmnïau monopoli sy’n rhedeg y rhwydweithiau nwy a thrydan. Buddiannau defnyddwyr nwy a thrydan yw eu buddiannau yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys lleihau nwyon tŷ gwydr a diogelu eu cyflenwad nwy a thrydan.
Ymhlith blaenoriaethau a dylanwadau eraill mae:
- helpu i sicrhau cyflenwadau ynni Prydain drwy hybu marchnadoedd nwy a thrydan cystadleuol – a’u rheoleiddio fel bod buddsoddiad digonol yn y rhwydweithiau, a
- chyfrannu at yr ymgyrch i atal newid yn yr hinsawdd a gwaith arall a anelir at ddatblygu cynaliadwy drwy, er enghraifft:
- helpu’r diwydiannau nwy a thrydan i gyflawni gwelliannau amgylcheddol mor effeithlon â phosibl; ac
- ystyried anghenion cwsmeriaid sy’n agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn, y rhai hynny ag anableddau a’r rhai hynny ar incwm isel.
Sut y cawn ein rheoli?
Rheolir Ofgem gan Awdurdod, sy’n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol a chadeirydd anweithredol. Daw aelodau anweithredol â phrofiad ac arbenigedd o amrywiaeth o feysydd gan gynnwys diwydiant, polisi cymdeithasol, gwaith amgylcheddol, cyllid ac Ewrop. Prif Weithredwr a thri o Uwch Bartneriaid Ofgem yw aelodau Gweithredol yr Awdurdod.
Mae’r Awdurdod yn penderfynu ar strategaeth, yn pennu blaenoriaethau polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys rheoli a gorfodi prisiau. Darperir pwerau’r Awdurdod o dan Ddeddf Nwy 1986, Deddf Trydan 1989, Deddf Cyfleustodau 2000, Deddf Cystadleuaeth 1998 a Deddf Menter 2002. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran yr Awdurdod o’r wefan.
Tryloywder
Mae Ofgem yn ymdrechu i gadw ei weithrediadau’n dryloyw. Ymhlith yr enghreifftiau o arferion sy’n dangos hyn mae:
• cyhoeddi cofnodion ei gyfarfodydd Awdurdod;
• cyfarfod agored blynyddol o’r Awdurdod; ac
• ymgynghoriad llawn a thrylwyr ar ddatblygu penderfyniadau (gan gynnwys datblygu ei strategaeth gorfforaethol).
Sut y cawn ein hariannu?
Rydym yn adfer ein costau gan y cwmnïau trwyddedig a reoleiddir gennym. Mae’n ddyletswydd ar drwyddedai i dalu ffi drwydded flynyddol a fydd yn cwmpasu ein costau. Mae Ofgem yn annibynnol ar y cwmnïau a reoleiddir gennym.
Rydym yn gweithredu o dan gyfundrefn rheoli costau bum mlynedd sy’n rhedeg rhwng 2004 a 2009. Mae’n pennu ein twf gwariant ar dri phwynt canran o dan y mynegai pris manwerthu. Bydd hyn yn lleihau ein costau fwy na £5 miliwn mewn termau real erbyn 2010.
Rhwydweithiau
Mae busnesau cludo ynni yn fonopolïau naturiol – nid oes ffyrdd realistig o gyflwyno cystadleuaeth.
Yn y sector hwn mae Ofgem yn diogelu buddiannau cwsmeriaid drwy reoleiddio’r cwmnïau drwy gyfnodau rheoli prisiau pum mlynedd sy’n cynnwys lleihau’r gwariant yn ogystal â chymhellion i fod yn effeithlon ac i arloesi’n dechnegol.
Mae’r rheolaethau pris yn pennu’r uchafswm refeniw y gall perchenogion rhwydweithiau ynni eu cymryd drwy daliadau maent yn eu codi ar ddefnyddwyr eu rhwydweithiau i gwmpasu eu costau a chael enillion yn unol â’r disgwyliadau y cytunwyd arnynt.
Yn yr achos hwn gallai’r defnyddwyr fod yn eneraduron trydanol sy’n cysylltu â’r rhwydwaith neu’r cludwyr sy’n defnyddio rhwydweithiau nwy i gludo nwy i gwsmeriaid.
Mae taliadau cludo ynni yn cyfrif am tua un rhan o bump o fil cwsmer cartref. Felly pan fydd Ofgem yn adolygu’r rheolaethau prisiau bob pum mlynedd mae’n edrych ar gydbwyso’r angen i ganiatáu adnoddau priodol i gwmnïau gyda’r angen i ddiogelu buddiannau’r cwsmer.
Mae rheolaethau prisiau wedi’u pennu ar gyfer y 14 o gwmnïau sy’n rhedeg y rhwydweithiau trydan rhanbarthol, y pedwar cwmni sy’n gweithredu’r rhwydweithiau cludo ynni a’r pedwar cwmni sy’n berchen ar y rhwydweithiau dosbarthu nwy lleol.
Darn o waith pwysig mae’r tîm rhwydweithiau wedi’i gyflawni gyda’r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd yw sefydlu’r fframwaith rheoliadol ar gyfer gweithredu a thrwyddedu ceblau a fydd yn cludo trydan o ffermydd gwynt ar y môr i'r gridiau ar y tir. Bydd y cysylltiadau hyn yn amodol ar yr un dull rheoli prisiau a ddefnyddir ar gyfer rhwydweithiau ar y tir.
Cynaliadwyedd
Cyflwynwyd dyletswydd Ofgem i gyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy yn 2004. Yn 2008, hyrwyddodd y Ddeddf Ynni y ddyletswydd hon, gan ei gosod ar yr un safle â’n dyletswyddau i fodloni galw rhesymol ac ariannu gweithgareddau a awdurdodir. Hefyd, amlygodd y Ddeddf fod ein prif nod, sef diogelu buddiannau defnyddwyr, yn cyfeirio at ddefnyddwyr y dyfodol yn ogystal â defnyddwyr presennol. Mae’r newidiadau hyn yn tanlinellu rôl bwysig a datblygol Ofgem wrth lunio dyfodol diwydiannau nwy a thrydan mewn ffordd gynaliadwy.
Rydym yn wynebu dyfodol sy’n cynnwys mwy o risgiau geowleidyddol i ddiogelwch ynni, prisiau ynni uwch o bosibl a’r angen i wneud llawer mwy i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr tra’n sicrhau y gall pawb fforddio i wresogi eu cartrefi’n ddigonol.
Er nad yw llawer o hyn sydd ei angen i gyflawni cynaliadwyedd o fewn ein rheolaeth uniongyrchol, mae’n gyfrifoldeb arnom i hwyluso newid drwy ymgysylltu yn y drafodaeth, ceisio darbwyllo chwaraewyr perthnasol i wneud newidiadau lle y bo angen a chyfrannu gwybodaeth ac arbenigedd lle y gallwn. Er enghraifft, rydym wedi bod ar y blaen wrth asesu’r achos dros ddulliau mesur gwell ar gyfer defnyddwyr ynni domestig ac rydym wedi cyflwyno cynigion mewn ymateb i’r Adolygiad Ynni ar sut y gellir gwella Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE.
Mae gwaith datblygu cynaliadwy Ofgem yn canolbwyntio ar bum thema:
Rheoli’r cyfnod pontio i economi carbon isel
Mae ein penderfyniadau ar reolau’r diwydiant i farchnadoedd cystadleuol a’r broses o reoleiddio rhwydweithiau monopoli yn hwyluso’r broses o ddatblygu technolegau carbon is.
Dileu tlodi tanwydd a diogelu cwsmeriaid sy’n agored i niwed
Tra bod achosion tlodi tanwydd yn mynd y tu hwnt i farchnadoedd ynni, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda’r Llywodraeth i ddileu tlodi tanwydd. Gall marchnadoedd cystadleuol ddarparu prisiau is a chynhyrchion mwy arloesol na marchnadoedd a reoleiddir ond mae angen rhai rheoliadau o hyd er mwyn diogelu cwsmeriaid ynni sy’n agored i niwed.
Hyrwyddo arbed ynni
Rydym yn cydnabod yr amrywiaeth eang o fanteision – amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd – a ddaw yn sgîl arbed ynni ac rydym yn ymrwymedig i chwarae ein rhan i annog pob defnyddiwr ynni i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.
Sicrhau cyflenwad nwy a thrydan diogel a dibynadwy
Mae ein proses o reoleiddio’r rhwydweithiau nwy a thrydan, a’n hymrwymiad i gynnal amgylchedd rheoleiddiol sy’n creu buddsoddiad, yn tanategu ein gwaith i sicrhau bod cyflenwadau ynni cost-effeithiol a dibynadwy ar gael i’n defnyddwyr bob amser.
Cefnogi gwelliant ym mhob agwedd ar yr amgylchedd
Y tu hwnt i’r agenda newid yn yr hinsawdd, mae’r diwydiannau nwy a thrydan yn effeithio ar yr amgylchedd drwy allyriadau eraill a’u heffeithiau ar ein cefn gwlad a’n cymunedau. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda phob rhanddeiliad er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried yr ystyriaethau ehangach hyn ym mhob un o’n penderfyniadau.
Cyhoeddodd Ofgem ei Adroddiad Datblygu Cynaliadwy blynyddol cyntaf yn 2006, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i’n dyletswydd datblygu cynaliadwy.