Rôl Ofgem 

 

Amddiffyn defnyddwyr yw prif flaenoriaeth Ofgem.
Gwnawn hyn drwy:

  • hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol, pan fydd hynny’n briodol, a.
  • chadw rheolaeth effeithiol ar gwmnïau monopoli sy’n rheoli’r pibellau nwy a’r gwifrau trydan. 

    Mae gennym flaenoriaethau eraill hefyd. Byddwn yn:
  • cynorthwyo i sicrhau cyflenwad ynni Prydain trwy hyrwyddo marchnadoedd nwy a thrydan cystadleuol - a rheoleiddio er mwyn gofalu bod buddsoddiad digonol yn y rhwydweithiau
  • cynorthwyo marchnadoedd a diwydiant nwy a thrydan i gyflawni gwelliannau amgylcheddol mewn modd mor effeithiol ag sy’n bosibl
  • ystyried anghenion cwsmeriaid bregus, yn enwedig pobl oedrannus, pobl ag anableddau a’r rhai ar incwm isel

Sut cawn ni ein rheoli?

Rheolir Ofgem gan Awdurdod sy’n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol.  Mae aelodau anweithredol yn cynnig ystod o brofiad ac arbenigedd, yn amrywio o brofiad mewn diwydiant a pholisi cymdeithasol i’r amgylchedd, cyllid ac Ewrop. Mae’r aelodau gweithredol yn cynnwys Prif Weithredwr Ofgem a Rheolwyr Gyfarwyddwyr.
Yr Awdurdod sy’n penderfynu ar strategaeth, yn gwneud pob penderfyniad pwysig ac yn gosod blaenoriaethau polisi.

Sut cawn ni ein hariannu?

Ariennir Ofgem gan y cwmnïau ynni sydd â thrwydded i reoli’r isadeiledd nwy a thrydan. Mae Ofgem yn gweithredu dan drefn rheoli costau llai na RPI-3 y cant a fydd yn gostwng ein costau o fwy na £5miliwn mewn termau real erbyn 2010.

Cysylltu ag Ofgem

A fyddech chi cystal â nodi na all Ofgem drin cwynion ac ymholiadau ar ran cwsmeriaid ynni. Cyfrifoldeb corff o ddefnyddwyr gwahanol, annibynnol, a adnabyddir fel energywatch yw hyn. Os bydd gennych unrhyw gwyn neu os byddwch yn ceisio gwybodaeth neu gyngor am y diwydiant ynni, dylech gysylltu ag energywatch ar eu llinell gymorth benodol: 0845 906 0708, neu drwy:

Rhif Ffacs: 020 7799 8341

Rhif RNID Typetalk: 18001 08459 060708

Cyfeiriad Gwefan: www.energywatch.org.uk

Ymholiadau E-bost: enquiries@energywatch.org.uk

Mae Tîm Materion Defnyddwyr Ofgem yn trin ymholiadau am bolisïau Ofgem ac yn sicrhau bod materion yn cael eu trosglwyddo at energywatch yn ôl y galw. Gallwch gysylltu â nhw ar: 020 7901 7295, trwy ffacs ar: 0207 901 7196, neu drwy e-bost ar: consumeraffairs@ofgem.gov.uk

Cysylltiadau pellach

Ymchwil a Gwybodaeth:

Gall y tîm Ymchwil a Gwybodaeth ateb ymholiadau ymchwil am waith Ofgem. Os gwelwch yn dda, nodwch na all y tîm ddelio ag ymholiadau cyffredinol gan ddefnyddwyr.

A fyddech chi cystal â chysylltu â: library@ofgem.gov.uk

Ymholiadau ffôn: 020 7901 7003 neu 020 7901 7119
Ffacs: 020 7901 7378
Ymweliadau trwy apwyntiad yn unig - angen 24 awr o rybudd

Canolfan Ddosbarthu:

Am gopïau caled o gyhoeddiadau argraffedig, a fyddech chi cystal â chysylltu â:

Ffôn: 020 7901 7116
Ebost: distribution@ofgem.gov.uk

Gwefan:

Am faterion technegol yn ymwneud â’r safle hwn, a fyddech chi cystal â chysylltu â: webmaster@ofgem.gov.uk