Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Os ydych yn cael trafferth talu am eich ynni mae’r cymorth canlynol ar gael:
Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni
Mae rhai cyflenwyr yn cynnig bargeinion ynni rhatach i’r cwsmeriaid hynny sydd ar incwm isel. Gall sawl cyflenwr gynnig mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim neu rai gostyngedig i gwsmeriaid ar incwm isel fel rhan o gynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Llywodraeth.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a ariennir gan y llywodraeth gyngor ar fesurau effeithlonrwydd ynni i ddefnyddwyr domestig ar wefan yr ymddiriedolaeth arbed ynni – bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.
Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes
Mae’r Gymdeithas Manwerthu Ynni, sy’n cynrychioli cyflenwyr ynni, wedi sefydlu’r Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes (0800 33 66 99). Mae’n llinell gymorth genedlaethol am ddim i gwsmeriaid sy’n agored i niwed sy’n cael problemau wrth dalu eu biliau tanwydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y llinell gymorth cartrefi cynnes - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.
Newid y dull o dalu
Gall newid y dull o dalu ei gwneud yn haws rheoli eich biliau ynni. Hefyd, cofiwch efallai y gallwch leihau eich biliau ynni os byddwch yn siopa o gwmpas am fargen well am eich ynni.
Taliadau tanwydd gaeaf
Telir taliadau tanwydd gaeaf hyd at £250 i bobl dros 60 oed. Gall y rhai hynny dros 80 oed hawlio £400. I gael ffurflen gais neu ragor o wybodaeth cysylltwch â’r llinell gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 08459 15 15 15.
Nyth
Mae 'Nyth', sef cynllun tlodi tanwydd newydd Llywodraeth Cymru a gaiff ei ddarparu mewn partneriaeth â Nwy Prydain, am helpu pobl sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau ynni. Mae'r cynllun yn cynnig nifer o welliannau i'r cartref am ddim i ddeiliaid cartrefi i'w helpu i wresogi eu cartrefi'n fwy effeithlon a chadw'n gynnes heb wynebu biliau ynni enfawr.
Mae rhaglen Nyth yn gweithredu ar sail 'cartref cyfan' i bennu pa welliannau ynni fyddai fwyaf addas, er enghraifft:
- Inswleiddio atig neu waliau ceudod
- Inswleiddio waliau solet
- Atal drafftiau
- Gosod boeler newydd
Er mwyn cael gwelliannau ynni o dan raglen Nyth, mae'n rhaid eich bod yn cael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, mae'n rhaid bod gan eich cartref gyfradd effeithlonrwydd ynni F neu G a'i fod yn eiddo preifat neu'n eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat. Gall deiliaid cartrefi sydd am ganfod a ydynt yn gymwys i gael cymorth ffonio rhif ffôn am ddim Nyth ar 0800 512 012 neu fynd i wefan Nyth - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.
‘Warm front’
Efallai y gall defnyddwyr yn Lloegr sydd angen cymorth i dalu am welliannau i’w systemau gwresogi ac inswleiddio ac sy’n byw mewn eiddo preifat neu gartref a rentir, gael arian gan gynllun grantiau ‘Warm Front’ y llywodraeth os ydynt, er enghraifft, yn cael unrhyw un o amrywiaeth o fudd-daliadau fel budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm neu anabledd. Edrychwch ar wefan ‘warmfront’ - bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr porwr newydd.
Rhaglen Cymorth Ynni
Gall defnyddwyr yn yr Alban fod yn gymwys i gael cymorth tebyg o dan Raglen Cymorth Ynni Gweithrediaeth yr Alban. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon yn yr Alban yn yr adran ‘Adnoddau Pellach’.
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR)
Os ydych mewn oedran pensiwn, yn anabl neu â salwch cronig gallwch fod yn gymwys i fod ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR) drwy ffonio eich cwmnïau nwy a thrydan. Mae gan gwsmeriaid sydd ar y rhestr hawl i wasanaethau ychwanegol am ddim, fel:
• gwiriadau diogelwch nwy blynyddol am ddim i gwsmeriaid cymwys,
• cynlluniau cyfrinair,
• biliau sydd ar gael mewn print bras a braille yn ogystal â biliau siarad,
• gwasanaethau darllen mesurydd chwarterol (os na all unrhyw unigolyn sy’n byw yn yr eiddo ddarllen y mesurydd),
• symud mesurydd rhagdalu i wella mynediad,
• cynllun enwebai biliau, a
• blaenoriaeth mewn argyfwng (gallai hyn gynnwys darparu cyfleusterau gwresogi a choginio amgen os bydd cyflenwad yn cael ei ddatgysylltu).
Mae cyflenwyr hefyd wedi’u gwahardd rhag datgysylltu eiddo lle mae cwsmer sydd â hawl i fod ar y PSR yn byw yn ystod misoedd y gaeaf (1 Hydref - 31 Mawrth).
Dyled a datgysylltu
Mae cyflenwyr yn gwneud ymdrechion sylweddol i annog cwsmeriaid i drafod eu hamgylchiadau gyda nhw’n uniongyrchol fel y gellir rhoi trefniant talu addas ar waith i adfer y ddyled. Os na wneir hynny, mae gan gyflenwyr ddyletswydd i gynnig gosod mesurydd rhagdalu er mwyn osgoi gorfod datgysylltu.
Mae cyflenwyr wedi rhoi rhwyd ddiogelwch ychwanegol ar waith sy’n cynnig diogelwch pellach i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys: gosod mesurydd rhagdalu (ble mae’n ddiogel gwneud hynny) neu roi’r cwsmer ar y cynllun talu Tanwydd Uniongyrchol.
Os gwrthodir cynigion o gymorth ac mae’r cwsmer yn parhau i fod mewn risg, caiff y gwasanaethau cymdeithasol eu hysbysu i gael cefnogaeth a chymorth pellach.