Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Mae'r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan (FIT) yn rhaglen amgylcheddol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth i annog cymaint o bobl â phosibl i ystyried amrywiaeth o dechnolegau cynhyrchu trydan adnewyddadwy a charbon isel ar raddfa fach. Caiff y cynllun ei gynnig gan gyflenwyr trydan trwyddedig, sy'n golygu bod yn rhaid i rai ohonynt wneud taliadau tariff ar gynhyrchu ac allforio trydan adnewyddadwy a thrydan carbon isel.
Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am gynhyrchu trydan a sut i ymuno â'r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan yw'r Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni (Cymru a Lloegr) neu'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (yr Alban):
Y Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni yng Nghymru a Lloegr - (Ffôn 0300 123 1234)
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn yr Alban - (Ffôn 0800 512 012)
Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd sy'n berchen ar wybodaeth am bolisi cynlluniau FIT (a bennir gan y Llywodraeth), gan gynnwys canllawiau ar weithdrefnau a phrosesau cwyno.
Ewch i wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC.
Mae gwybodaeth am rôl weithredol Ofgem wrth gyflwyno'r cynlluniau Tariff Cyflenwi Trydan ar gael yn adran cynaliadwyedd ein gwefan.
Darllenwch fwy: Rhaglenni Amgylcheddol - FITs