Skip to contents

Contractau 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

 

Contractau microfusnesau:

 

Pa wybodaeth fydd angen i'm cwmni ei darparu er mwyn profi ei fod yn ficrofusnes?

Os nad oes gan eich cyflenwr y wybodaeth lawn am eich busnes efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am nifer y cyflogeion (cyfwerth ag amser llawn), y trosiant a'r defnydd o ynni. Mae'n ofynnol i'ch cyflenwr gymryd pob cam rhesymol i nodi pa un a ydych yn ficrofusnes neu gall benderfynu eich trin yn awtomatig fel microfusnes.

 

Penderfynodd fy nghyflenwr nad yw fy musnes yn gymwys i fod yn ficrofusnes, ond rwyf yn anghytuno. Beth y gallaf ei wneud?

I ddechrau, dylech fynd at eich cyflenwr gyda'r dystiolaeth ategol eich bod yn gymwys, megis nifer y cyflogeion a throsiant blynyddol neu ddefnydd o ynni. Dylech hefyd ei atgoffa o'i rwymedigaeth i gymryd pob cam rhesymol i nodi pa un a ydych yn ficrofusnes

 

Cafodd fy nghontract ei drosglwyddo'n awtomatig am fwy na blwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod y rheolau newydd wedi bod yn weithredol ers 18 Ionawr 2010. Sut mae hyn yn bosibl?

Os gwnaethoch ymrwymo i gontract cyn 18 Ionawr 2010, bydd telerau ac amodau'r contract hwnnw yn datgan cyfnod o amser pan ddylech ddweud wrth y cyflenwr am eich bwriad i derfynu'r contract. Os gwnaethoch fethu â rhoi gwybod hyn i'ch cyflenwr yn ystod y cyfnod penodedig a nodir yn eich contract, mae'n bosibl bod eich cyflenwr wedi trosglwyddo eich contract yn awtomatig. Er mwyn manteisio ar y mesurau diogelu newydd gallech ystyried trefnu contract newydd cyn gynted â phosibl a dylech ystyried y trefniadau ar gyfer dod â'ch contract presennol i ben yn ofalus.

 

Beth y dylwn ei ystyried wrth ymrwymoi gontractau newydd?

Dylech wneud y canlynol:

 

  • ystyried pa gontract ynni sy'n addas i anghenion eich busnes, siopa o gwmpas a chymharu cynigion cyflenwyr. Darllenwch yr adran ar newid cyflenwr i gael cyngor ar sut i wneud hyn
  • sicrhau eich bod yn deall agweddau allweddol eich contract;
  • darllen Telerau ac Amodau llawn eich contract pan fyddwch yn eu cael a'r Datganiad o Delerau Adnewyddu. Cadwch hwy er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol;
  • os bydd unrhyw anghydfodau gyda'ch cyflenwr, cadwch gopïau o bob gohebiaeth.

 

Mae rhagor o gyngor ar gontractau i gwsmeriaid busnes ar gael yn.

 

Mae Llais Defnyddwyr hefyd yn darparu gwasanaeth cwestiynau ac atebion ar-lein a all helpu cwsmeriaid busnes.

 

Contractau Tybiedig:

 

Beth yw contract Tybiedig?

Fel arfer, bydd contract tybiedig ar waith pan fydd unrhyw fath o gwsmer yn symud i safle newydd ac yn dechrau defnyddio nwy a/neu drydan heb gytuno ar gontract gyda chyflenwr. Gall contract tybiedig fodoli hefyd pan ddaw contract presennol i ben ond bod y cwsmer yn parhau i ddefnyddio nwy a/neu drydan. Gallai'r ail bosibilrwydd hwn ddigwydd mewn dwy ffordd:

 

1. Os caiff contract ei derfynu (gan naill ai'r cyflenwr neu'r cwsmer) ond bod y cyflenwr yn parhau i gyflenwi i'r cwsmer, mae'n debygol y bydd contract tybiedig o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

  • os nad yw'r contract gwreiddiol yn datgan yn benodol beth fydd yn digwydd ar ôl terfynu'r contract. Er enghraifft, os nad yw'n nodi bod yn rhaid i delerau'r contract gwreiddiol fod yn gymwys pan fyddwch 'allan o gontract' 
  • os bydd y cwsmer presennol yn parhau i ddefnyddio nwy a/neu drydan ar y safle

 

2. Lle bydd contract yn dirwyn i ben ond bod y cwsmer yn defnyddio nwy a/neu drydan gan yr un cyflenwr o hyd, bydd contract tybiedig yn debygol o fodoli o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

  • os nad yw'r contract gwreiddiol yn datgan yn benodol beth fydd yn digwydd ar ôl i'r contract ddirwyn i ben (e.e. nid yw'n cynnwys darpariaethau adnewyddu neu'n datgan bod y telerau gwreiddiol yn berthnasol o hyd);
  • os bydd y cwsmer presennol wedi rhoi gwybod i'r cyflenwr (mewn ffordd benodol neu ymhlyg) nad yw am i'r contract gwreiddiol barhau (neu i'r gwrthwyneb).

 

Eich hawliau pan fyddwch ar gontract tybiedig

Os byddwch yn dechrau derbyn cyflenwad ar gontract tybiedig, RHAID i'ch cyflenwr wneud y canlynol:

 

  • cymryd pob cam rhesymol i roi Prif Delerau'r Contract Tybiedig i chi gan gynnwys y taliadau / ffioedd,
  • rhoi copi o'r contract llawn i chi os byddwch yn gofyn am hynny,
  • cymryd pob cam rhesymol i roi gwybod i chi am gontractau eraill sydd ar gael a sut y gallwch gael gwybodaeth amdanynt
  • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw telerau'r Contract Tybiedig yn amhriodol o feichus.

 

Os ydych yn gwsmer busnes sy'n defnyddio ynni ar gontract tybiedig, NI ALL y cyflenwr:

 

  • eich atal rhag newid i gyflenwr arall, am unrhyw reswm nac ar unrhyw adeg (h.y. ni all wrthwynebu eich penderfyniad i drosglwyddo am resymau sy'n ymwneud â dyled neu gontract),
  • ei gwneud yn ofynnol i chi roi rhybudd cyn terfynu'r contract; codi ffi derfynu arnoch.

 

Gallwch weld yr amod trwydded cyflenwi lawn (SLC), sy'n nodi'r telerau sy'n gysylltiedig â Chontractau Tybiedig yn.